Lansio Grŵp Cerdded Newydd ym Mro Tregaron

Ymunwch â ni am daith gerdded ar hyd Cors Caron

gan Elinor Lloyd

Ydych chi wrth eich bodd yn cerdded a bod gyda phobl? Bydd Cerdded er Budd Lles Gorllewin Cymru yn lansio grŵp cerdded newydd yn Nhregaron fis nesaf.

Mae teithiau cerdded lles am ddim, teithiau cerdded byr yn para dim mwy nag awr. Maent yn gyfle perffaith i wella eich ffitrwydd, cael ychydig o awyr iach ac, yn bwysicaf oll, i gymdeithasu ag eraill sy’n byw yn eich ardal.

Bydd ein taith gerdded gyntaf ar y 18fed o Orffennaf am 11yb. Dewch i gwrdd â ni ym Maes Parcio Cors Caron! Does dim angen archebu lle, ac mae croeso i bawb ymuno â ni. Dewch â digon o ddŵr (ac eli haul os yw’r tywydd yn edrych yn braf!). Beth am ddod â phicnic ac aros am sgwrs wedyn?

Mae gennym hefyd gyfleoedd i chi hyfforddi fel arweinydd cerdded a helpu eich cymuned leol i ddod yn fwy egnïol. Rhoddir hyfforddiant a chefnogaeth lawn.

Fel arweinydd cerdded byddwch yn galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i gael profiad cadarnhaol a chyfoethog mewn lleoliad sy’n addas ac yn ddiogel i’w hanghenion.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Dawn ar 07866 985753 neu Dawn.Forster@ceredigion.gov.uk, neu edrychwch ar ein gwefan westwaleswalkingforwellbeing.org.uk.