Lansiad CD Parti Camddwr

Byddwn yn lansio ein CD cyntaf yn Nhafarn y Bont, Bronant ar nos Wener 14 Gorffennaf

gan Efan Williams
Poster-Lansiad-CD-Parti-Camddwr

Mae ein CD yn barod i lansio! Byddwn yn cyflwyno ein CD i’r cyhoedd yn swyddogol mewn noson arbennig yn Nhafarn y Bont, Bronant ar nos Wener 14 Gorffennaf am 7yh.

Mae’r broses recordio wedi bod yn hir, diolch i’r cyfnodau clo, ac mae aelodaeth y parti wedi newid yn y cyfamser. Mae’r CD yma, felly, yn gofnod teilwng o brofiadau’r parti dros y 10 mlynedd (a mwy) diwethaf.

Mae croeso mawr i bawb ymuno â ni am noson hwyliog o ganu a chymdeithasu. Bydd mynediad am ddim i’r noson a bydd bwyd ar gael a diddanwch yng nghwmni Parti Camddwr. Bydd cyfle i chi brynu CD ar y noson – cyfle i fachu bargen!

Dewch yn llu i Fronant i ymuno gyda ni wrth i ni ddathlu cyhoeddi’r CD newydd a chofnod o hanes ein bro!