Gwion ar daith i’r Alban dros MND

Taith seiclo 555 milltir o Gaerdydd i Gaeredin

Manon Wyn James
gan Manon Wyn James
Gwion-seiclo

Gwion a bois seiclo Clwb Rygbi Aberystwyth

Dros y misoedd diwethaf mae Gwion James o Dregaron wedi bod yn paratoi at sialens a hanner fel rhan o dîm o gyn chwaraewyr Clwb Rygbi Aberystwyth, sy’n seiclo 555 milltir o Gaerdydd i Gaeredin

Bydd yr holl elw yn mynd tuag at apêl Doddie Aid sef elusen sy’n cefnogi pobl gyda’r Clefyd Motor Neurone. Roedd Doddie Weir yn gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yr Alban a’r Llewod a gollodd ei frwydr hir gydag MND ym mis Tachwedd 2022.

Mae’r daith 555 milltir i’w chwblhau mewn tua 50 awr. Gan ddechrau yn Stadiwm Principality Caerdydd am 8.00 bore ddydd Iau bydd timau o hyd at wyth beiciwr yn reidio mewn ras gyfnewid i deithio bron yn ddi-stop ddydd a nos, gan anelu at gyrraedd Murrayfield o gwmpas amser cinio ddydd Sadwrn, cyn gêm ryngwladol Yr Alban v Cymru am 4.45 y pnawn.

Arweinir y grŵp o dros 25 o dimau gan y chwaraewr Rhyngwladol a Llysgennad Sefydliad Doddie, Rob Wainwright, a fydd yn cludo pêl y gêm o Gaerdydd i Gaeredin. Ymhlith y timau mae’r pencampwr seiclwr Olympaidd Chris Hoy a cyn aelodau tîm y Llewod 1997 gan gynnwys Martin Johnson, Paul Wallace, Fran Cotton, Tim Stimpson, Jeremy Davidson ac eraill.

Mae tîm Clwb Rygbi Aberystwyth yn cynnwys Cefin Evans, Gareth Jones a James Raw, ynghyd â Dafydd Evans, Iestyn Tudur-Jones, Gwion James, Glyn Williams, Aled Lewis, Dylan Llewelyn, Brian Isaac ac Emlyn Jones.

Meddai Gwion:

“Rydyn ni wedi bod yn hyfforddi ers mis Tachwedd ac yn edrych ymlaen at yr her. Mae’n wych bod gyda’n gilydd fel criw o gyn-chwaraewyr unwaith eto, a gwneud cyfraniad i’r achos teilwng hwn. Roedd Doddie Weir yn cael ei edmygu fel chwaraewr rygbi ac yn ddiweddarach hefyd fel ymgyrchydd ymroddedig dros ymwybyddiaeth MND. Bydd hi’n bleser i reidio’r daith hon er cof amdano.”

Gallwch gyfrannu i’r achos yma https://www.justgiving.com/crowdfunding/aber4doddie