Gwasanaeth Pob Oed

CAPEL BWLCHGWYNT

Delyth Rees
gan Delyth Rees

GWASANAETH POB OED

Bore Sul, 19 Tachwedd croesawyd pawb i’r Gwasanaeth Pob Oed gan y Bugail a braf gweld cynulleidfa deilwng wedi dod ynghyd i’r festri.

Thema Clwb yr Ysgol Sul y tymor yma yw ‘Iesu’r Ffrind’ a chafwyd stori Sacheus gyda’r plant yn ymateb yn dda.

Cyflwynwyd yr emynau gan Gwion Jac Lewis Hughes, Arthur Evans, Mali Lloyd ac Ifan Lawlor. Darllenwyd dameg y Samariad Trugarog gan Nel James. Cafwyd eitem hyfryd gan y plant yn canu dau emyn i gyfeiliant Catherine Hughes. Gwnaed y casgliad gan Gwion ac Arthur.

Gan ei bod yn Sul Diogelu 2023 cafwyd cyfle i ddilyn ychydig o’r gwasanaeth a baratowyd gan y Panel Diogelu Cydenwadol. Gwasanaeth sydd yn codi ymwybyddiaeth diogelu yn ein capeli/eglwysi lleol mewn modd cadarnhaol a chyfeillgar. Dangoswyd fideo byr o Weddi Sul Diogelu a ysgrifennwyd gan y Parchg. Robin Samuel gyda gwahanol aelodau yn ei hoffrymu.

Cafwyd gwasanaeth bendithiol a diolchwyd i bawb a gymerodd ran gan Gareth Jones.

Diolchodd y Bugail i bawb o gapeli Gofalaeth Caron ac i aelodau Eglwys Sant Caron am eu caredigrwydd i gyfrannu bocsys anrhegion i Operation Christmas Child. Casglwyd 83 o focsys a pharatowyd 4 ar lein. Diolch i’r Parch. Carwyn ac Alicia Arthur am eu gwaith o drefnu’r cyfan yn flynyddol a hefyd i Evan Jones, Llanddewi Brefi am eu cludo i Aberystwyth.

Diolch i bawb am eu haelioni i sicrhau hapusrwydd i blant ac ieuenctid llai ffodus dros Ŵyl y Nadolig.