Golygyddol Barcud mis Mawrth

John a Tegwen Meredith

gan Efan Williams

GOLYGYDDOL

Ugain mlynedd yn ôl i eleni roedd Capel Llwynpiod yn dathlu ei ddau gan mlwyddiant, er bod hanes yr achos yn yr ardal yn mynd nôl dros ganrif arall.

Eleni ar brynhawn Sul y 5ed o Fawrth bu i’r drysau gau am y tro olaf yn dilyn gwasanaeth datgorffori. Roedd y penderfyniad yn un anodd a phoenus rwy’n siŵr ond yn gwbwl anochel.

Yn drist iawn mae hon yn sefyllfa gyffredin ar draws Cymru gyfan. Yma yng Ngheredigion mae tua dwsin o gapeli yn perthyn i’r Presbyteriaid yn unig yn yr un sefyllfa. Codwyd a chynhaliwyd yr adeiladau yma gan geiniogau prin a llafur cariad y werin bobl. Bu pob un ohonynt yn gonglfaen i grefydd, yr iaith  a’r diwylliant Cymraeg.

Hoffwn feddwl fod hyn yn cael ei ystyried wrth i’r adeiladau ddod o dan y morthwyl. Ond mae’n debyg bod rheolau y Comisiwn Elusennau, ac yn wir cyfraith gwlad, yn rhwystro hyn rhag digwydd.

Felly rhaid i’r adeiladau fynd ar y farchnad agored er mwyn sicrhau y pris uchaf.

Os gwir hyn oni ddylid herio sefyllfa o’r fath fel bod anghenion a dymuniadau’r gymuned leol yn cael ei ystyried yn ystod y broses o werthu.

John a Tegwen Meredith