Ffenest newydd yn Eglwys Dewi Sant

Cymanfa ganu a chysegru ffenestr newydd Eglwys Llanddewi Brefi.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Ar brynhawn Sul yr 16eg o Ebrill, roedd Eglwys Dewi Sant yn llawn dop ar gyfer Cymanfa Ganu a chysegru ffenestr newydd sydd uwchben y drysau. Digwyddiad a drefnwyd gan Ardal Weinidogaethol Llanbedr.

Rhoddwyd y ffenestr hardd a lliwgar yma er cof am Arwyn Roberts, dyn uchel ei barch yn yr ardal. Gweithiodd yn galed er lles yr Eglwys dros y blynyddoedd, a chysegrwyd y ffenestr gan Yr Archddiacon Eileen Davies gyda theulu Arwyn a Beti’n bresennol hefyd.

Cafwyd anerchiad gan y Canon Aled Williams yn cyflwyno a thalu teyrnged i’w gyfaill, Arwyn Roberts, gyda’r straeon a’r hanes yn ddifyr iawn.

Roedd yr awyrgylch yn ystod y prynhawn yn hwyliog ac ymlaciol, gyda’r band gwych yn ein harwain i ganu emynau hen a newydd mewn dull modern. Roedd hi’n braf dysgu emynau newydd sbon yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Merched Soar oedd eitemau’r prynhawn, Llinos Griffiths yn darllen o’r beibl ac Archddiacon Eileen Davies yn arwain yr addoli.

Derbyiodd pawb baned a chacen yn Neuadd Llanddewi-Brefi ar ddiwedd y digwyddiad hefyd wrth gwrs!