Ffair Nadolig Capel Bwlchgwynt

Capel Bwlchgwynt

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Prynhawn Sadwrn, 25 Tachwedd cynhaliwyd Ffair Nadolig y capel yn y Neuadd Goffa. Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan y Gweinidog. Dechreuwyd gyda’r plant yn canu dwy gân i gyfeiliant Mrs. Catherine Hughes.

Estynnwyd croeso arbennig i Lywydd y prynhawn sef Mrs. Eleri Jones (Derlwyn gynt) a hyfryd oedd cael cwmni aelodau o’i theulu oedd wedi ymuno gyda ni. Cafwyd anerchiad arbennig ganddi yn olrhain ei hanes ac yn sôn am yr atgofion hapus sydd gyda hi o Fwlchgwynt. Er bod Eleri yn byw ym Mangor erbyn hyn ers blynyddoedd lawer mae’n amlwg fod y Capel a Thregaron yn dal yn agos iawn at ei chalon. Diolch iddi am ei chwmni ac am ei rhodd hael iawn i’r coffrau. Cyflwynwyd llechen gyda llun y capel iddi gan y Bugail.

Roedd yn braf gweld cymaint wedi troi i mewn i’r neuadd i gael paned a chymdeithasu a chael cyfle i fynd o amgylch y stondinau amrywiol.

Cafwyd prynhawn pleserus a diolch i’r merched fu’n paratoi’r coffi, i’r rhai fu’n gweini ac hefyd i’r rhai fu’n gyfrifol am y stondinau. Gwerthfawrogir cyfraniad pawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd i sicrhau Ffair llwyddiannus eleni eto.