Yn ogystal â gweld anifeiliaid fferm gorau’r wlad yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd, eleni bydd cyfle i weld Jwmbabi- yr Eliffant enwog o Dregaron!
Yn dilyn llwyddiant Clwb Ffermwyr Ifanc Tregaron yn Rali’r Sir ym mis Mai, mae nifer o’r aelodau yn paratoi i gynrychioli’r Sir ar lefel Genedlaethol yn Llanelwedd. Bydd Jwmbabi yn rhan o gystadleuaeth y ‘Prif Gylch’ fydd am 4 o’r gloch Ddydd Lun yn nghylch y gwartheg. Mae cyflwyniad ‘Y Syrcas’ gan Tregaron yn llawn hwyl a lliw, ac yn siwr i roi sioc i’r gynulleidfa!
Yn ogystal, mae’r clwb yn rhan o nifer o gystadlaethau ym mhafiliwn y Ffermwyr Ifanc ar y maes.
Dydd Llun am 9 o’r gloch, Trefnu Blodau-
Cari Davies
Dydd
Mawrth am 1 o’r gloch- Dawnsio
Dydd Mercher am 9 o’r gloch, Crefft, Delun Davies
Dydd Mercher am 11 o’r gloch- Ail Greu Pennod o Raglen Deledu/Ffilm
Hefyd, yn yr ardal Goedwigaeth am 1 o’r gloch Dydd Iau bydd Emrys Jones a Jac Jenkins yng nghystadleuaeth Gwaith Coed i aelodau Iau.
Mae Nerys Williams, un o arweinwyr gweithgar y clwb yn edrych ’mlan “Ni’n falch ofnadw o lwyddiant y Clwb yn Rali’r Sir, yn enwedig gan fod y mwyafrif yn aelodau Iau,” meddai. “Ni’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth barod arweinwyr y clwb a rhieni, a gobeithio bydd pawb yn mwynhau eu hamser yn y Sioe yn Llanelwedd,” ychwanegodd.
Wrth gwrs, gan fod CFFI Tregaron wedi ennill y Rali eleni, nhw fydd yn cynnal y Rali yn 2024. Y tro diwethaf i Dregaron gynnal y Rali oedd yn 2017, pan gafwyd digwyddiad llwyddiannus iawn ar Fferm Dolyrychain, Pontrhydfendigaid, â chlwb CFFI Felinfach yn fuddugol. Bydd CFFI Tregaron yn siŵr o alw ar aelodau hen a newydd i gydweithio wrth baratoi i groesawu’r Sir yn ôl i Rali Tregaron 2024.