Cynhaliwyd penwythnos o eisteddfodau llwyddiannus ym Mhafiliwn y Bont dros benwythnos Gŵyl y Banc, a’r beirniaid Eleri Owen Edwards ac Andrew Rees (Cerdd), Owain Sion (Cerdd Dant ac Alaw Werin), Rhian Parry (Llefaru) a’r Prifeirdd Gwenallt Llwyd Ifan a Dafydd Pritchard (Llenyddiaeth) yn tystio i safon y cystadlu fod o’r radd uchaf. Y cyfeilyddion oedd Rhiannon Pritchard a Lona Phillips (piano) a Kim Lloyd Jones (telyn). Llywydd yr Ŵyl oedd un o ffyddloniaid yr eisteddfodau, Jean Williams, Cefnmeurig.
‘Am bleser ac anrhydedd cael bod yn gadeirydd ar eisteddfodau mor llwyddiannus. Llongyfarchiadau a diolch enfawr i bawb fu ynghlwm wrth y trefniadau mewn unrhyw ffordd. Rydym yn ffodus o gael tîm ardderchog o wirfoddolwyr yn rhan o bwyllgor yr eisteddfodau, heb sôn am bawb arall sydd wedi cyfrannu mewn llawer modd. Ymlaen at ddathlu’r 60 blwyddyn nesaf!’
Efan Williams, Cadeirydd Eisteddfodau Pontrhydfendigaid
Cafwyd penwythnos gwych o gystadlu, gwnaeth y pwyllgor a ffrindiau’r eisteddfodau gweithio’n galed a mwynhau a chafwyd cynulleidfaoedd da trwy’r penwythnos.
Ni’n ffodus iawn yn ein hardal ni i gael Y Pafiliwn gyda llwyfan, sain gwych a digon o le i gynulleidfaoedd i fwynhau. Mae’r Pafiliwn hefyd yn le da i baratoi ar gyfer Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol.
A dyma nhw: Canlyniadau
Parti Canu Oedran Ysgol Gynradd: 1. Adran Aberystwyth. 2. Ysgol Pontrhydfendigaid ac Ysgol Henry Richard. 4. Ysgol Myfenydd, Llanrhystud.
Parti Llefaru oedran Ysgol Gynradd: 1. Parti Pontrhydfendigaid.
Côr Plant oedran Ysgol Gynradd: 1. Adran Aberystwyth. 2. Ysgol Henry Richard. 3. Ysgol Myfenydd.
Ymgom oedran Ysgol Gynradd: Ysgol Pontrhydfendigaid.
Unawd Offerynnol Blwyddyn 6 ac iau: 1. Hywyn Euros, Pwllheli. 2. Angharad Thomos, Llangwyryfon. 3. Anni Grug Tregaron.
Ymgom Ysgol Uwchradd: 1. Elin Williams a Delun Davies, Ysgol Henry Richard. 2. Mari Iago Hedd a Guto Ysgol Henry Richard.
Unawd Offerynnol Blwyddyn 7, 8 a 9: 1. Gruffydd Sion Aberystwyth. 2. Elinor Nicholas Aberystwyth. 3. Carys Jenkins Aberystwyth.
Parti Canu Agored: 1. Merched Soar, ardal Tregaron. 2. Ysgol Henry Richard, Tregaron. 3. Parti Pam Lai, ardal Llanbed. 4. Parti Camddwr, ardal Lledrod.
Unawd Offerynnol Blwyddyn 10 a throsodd: 1. Catrin Edwards Aberaeron. 2. Gruffudd ap Owain, Y Bala. 3. Lefi Aled Dafydd, Crymych.
Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru Perfformio Darn Digri’: 1. Ifan Meredith Llanbedr Pont Steffan. 2. Mair Jones Tregaron.
Ensemble Offerynnol: 1. Band Offerynnol Tref Aberystwyth 2. Pedwarawd Pres Aberystwyth. 3. Triano, Swyddffynnon. 4. Steffan Rhys Jones, Llanilar a Gruffydd Sion, Llandre. 4 Parti’r Efail, Llanrhystud.
Enillydd Tlws Coffa Parhaol Goronwy Evans i’r chwaraewr Pres gorau yn y cystadlaethau Offerynnol: Gruffydd Sion, Llandre.
Unawd Blwyddyn 2 ac iau: 1. Neli Evans Talgarreg. 2. Annes Euros Pwllheli. 3. Mari Dalton, Creuddyn Bridge a Wil Ifan, Trawsfynydd.
Llefaru Blwyddyn 2 ac iau: 1. Neli Evans, Talgarreg. 2. Annes Euros, Pwllheli. 3. Bethan Llewellyn, Llanwnen.
Unawd Blynyddoedd 3 a 4: 1. Nanw Melangell Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. 2. Gruffydd Davies, Llandyfyriog a Sara Lewis, Mydrodyn. 3. Cari Edwards Bronant.
Llefaru Blynyddoedd 3 a 4: 1. Sara Lewis, Mydroilyn. 2. Nanw Melangell Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. 3. Now Schiavone Aberystwyth.
Unawd Blynyddoedd 5 a 6: 1. Efan Evans, Talgarreg. 2. Ella Gwen, Bronant. 3. Iwan Marc Thomas, Pontarddulais.
Llefaru Blynyddoedd 5 a 6: 1. Angharad Davies, Llanwennog. 2. Celyn Davies, Llandyfriog. 3. Meia Evans Llanfihangel y Creuddyn.
Unawd Alaw Werin Blynyddoedd 6 ac iau: 1. Ella Gwen, Bronant. 2. Nanw Melangell Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. 3 Meia Evans Llanfihangel y Creuddyn ac Iwan Marc Thomas Pontarddulais.
Unawd Cerdd Dant Blynyddoedd 6 ac iau: 1 Nanw Melangell Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. 2. Efan Evans, Talgarreg. 3 Ella Gwen, Bronant.
Unawd Blynyddoedd 7, 8 a 9: 1. Fflur McConnell, Aberaeron. 2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. 3. Llio Rhys Trawsfynnydd.
Llefaru Blynyddoedd 7, 8 a 9: 1. Fflur McConnell, Aberaeron. 2. Mari Williams, Tregaron. 3. Sara Elena James Gorsgoch ac Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrt Newydd.
Unawd Oedran Blynyddoedd 10 – 13: 1. Elain Rhys, Trawsfynydd. 2. Ioan Mabbutt, Aberystwyth. 3. Harri Evans Tregaron.
Llefaru Oedran Blynyddoedd 10 – 13: 1. Elin Williams, Tregaron. 2. Swyn Efa Tomos, Pencarreg. 3. Elan Mabbutt, Aberystwyth.
Unawd Cerdd Dant Blynyddoedd 7-13: 1. Elain Rhys, Trawsfynydd. 2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. 3. Fflur McConnell,Aberaeron a Llio Rhys, Trawsfynnydd.
Unawd Alaw Werin Blynyddoedd 7-13: 1. Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. 2. Ioan Mabbutt, Aberystwyth. 3. Elain Rhys, Trawsfynnydd.
Unawd Cerdd Dant: 1. Trefor Pugh, Trefenter. 2. Beca Williams, Aberystwyth. 3. Elain Rhys, Trawsfynydd.
Unawd Alaw Werin: 1. Trefor Pugh, Trefenter. 2. Robert John Roberts, Portheithwy. 3. Beca Williams Aberystwyth a Llinos Hâf Jones, Penarth.
Unawd O Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm i rai dan 19 oed: 1. Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. 2. Miri Llwyd, Llandre a Fflur McConnell, Aberaeron. 3. Elin Williams, Tregaron.
Llefaru dan 25 oed: 1. Swyn Efa Tomos, Pencarreg. 2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. 3. Elin Williams, Tregaron. 3. Mari Williams, Tregaron.
Unawd dan 25 oed: 1. Llinos Hâf Jones, Penarth. 2. Tomos Heddwyn Griffiths, Trawsfynydd. 3. Tara Camm, Abertawe. 4. Ffion Mair Thomas, Crymych.
Unawd Allan o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm – Agored: 1. Tara Camm, Abertawe. 2. Lois Wyn, Rhydymain, Dolgellau. 3. Llinos Hâf Jones, Penarth. 4. Ffion Mair Thomas, Crymych.
Cyflwyniad Dramatig Unigol: 1. Swyn Efa Tomos, Pencarreg. 2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrt Newydd. 3. Elin Williams, Tregaron.
Cwpan Her Parhaol Moc Morgan am berfformiad gorau’r noson: Tara Camm, Abertawe.
Deuawd Agored: 1. Efan Wiliams, Lledrod a Barry Powell, Llanfihangel y Creuddyn.
Unawd Gymraeg: 1. Heulen Cynfal, Parc Y Bala. 2. Tomos Heddwyn Griffiths, Trawsfynydd. 3. Ffion Mair Thomas, Crymych. 4. Llinos Hâf Jones, Penarth.
Canu Emyn dros 60 oed: 1. Vernon Maher, Saron, Llandysul. 2. Gwynne Jones, Llanafan,. Aled Jones, Machynlleth. Llefaru Unigol O’r Ysgrythur: 1. Maria Evans, Rhydargaeau.
Unawd Oratorio: 1. Heulen Cynfal, Parc Y Bala. 2. Efan Wiliams, Lledrod. 3. Barry Powell, Llanfihangel y Creuddyn.
Prif Gystadleuaeth Lefaru Unigol: 1. Jane Altham Watkins, Abertawe. 2. Maria Evans, Rhydargaeau. 3. Rhys Jones, Corwen.
Her Unawd dros 25 oed: 1. Sion Eilir Roberts, Rhuthin. 2. Heulen Cynfal, Parc Y Bala. 3. Stefanie Harvey-Powell, Aberdar. 4. Efan Wiliams, Lledrod. 5. Barry Powell, Llanfihangel y Creuddyn. 5. Rhys Maelgwyn Evans, Brynbuga.
Canlyniadau Testunau Llenyddiaeth:
Y Goron: Hilma Lloyd Edwards, Bontnewydd.
Y Gadair: Arwel ‘Rocket’ Jones, Aberystwyth.
Emyn: 1. John Meurig Edwards, Aberhonddu. 2. Vernon Jones, Bow Street. 3. Dyfan Phillips, Rhuthun.
Englyn: 1. Emyr Jones, Caerdydd. 2. Mererid Jenkins, Ffair Rhos. 3. Emyr Jones, Caerdydd.
Stori Fer: 1. John Meirig Edwards, Aberhonddu. 2. Hefin Wyn, Maenclochog. 3. Dilys Baker Jones, Bow Sreet.
Cywydd: 1. Jo Hyde, Rickmansworth. 2. Huw Dylan Owen, Treforys. 3. Richard Lloyd Jones, Bethel Caernarfon.
Soned neu Delyneg: Mynediad. 1. 2. a 3. John Meirig Edwards, Aberhonddu.
Tlws Yr Ifanc: 1. Erin Trysor, Llangeitho. 2. Lefi Aled Dafydd, Crymych. 3. Elan Mabbutt, Aberystwyth.
Talwrn Y Beirdd: 1. Ysgol Farddol Caerfyrddin. 2. Glannau Teifi. 3. Ffair Rhos.
LLONGYFARCHIADAU A DIOLCH I BAWB
Ceir fwy o luniau ar ein tudalen Facebook