Cyn y Nadolig cafodd Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid arolwg gan Estyn ac o’r canlyniad maent wedi derbyn adroddiad gwych. Mae Estyn wedi gofyn iddynt i greu adroddiad arfer da i’w rhannu gyda sefydliadau eraill ar draws Cymru ar eu defnydd o ardal tu allan. Yn ôl yr adroddiad ‘Mae’r arweinwyr wedi datblygu’r ardal tu allan i’r eithaf i hyrwyddo chwilfrydedd a chynnig cyfleoedd hynod gyfoethog iddynt. Mae gan yr arweinydd, yr ymarferwyr a’r pwyllgor rheoli sefydlog weledigaeth glir iawn sy’n llywio cyfeiriad pwrpasol i waith y lleoliad’
Mae Cylch meithrin Pontrhydfendigaid wedi bodoli ers 50 o flynyddoedd, yn cwrdd yn Neuadd Pantyfedwen, ac yn sicr wedi bod yn fan pwysig iawn yn y pentref dros y blynyddoedd. Felly i drigolion Bont mae’n wych bod Estyn yn cytuno gyda ni fod ein Cylch ni yn wych.
Ymhlith y canmoliaethau, nodir yn yr adroddiad bod ‘bron bob un o’r plant yn teimlo’n hollol gartrefol yn y lleoliad ac maent wrth eu boddau yn mynychu. Maent yn cyrraedd yn hapus ac yn eiddgar i chwarae’
Yn ogystal ‘mae mwyafrif y plant yn fywiog ac yn mynegi brwdfrydedd a mwynhad, gan wenu a chwerthin wrth gyflwyno eu cynnyrch i ymarferwyr gyda balchder. Maent yn dangos diddordeb mawr yn y gweithgareddau sydd ar gael.’
Nodir hefyd yn yr adroddiad bod ‘rhan fwyaf y plant yn annibynnol ac yn hyderus wrth ymdrin ag offer… yn gwrando ar gyfarwyddiadau’n astud ac yn gweithredu arnynt yn gynhyrchiol.’
Nid yn unig cafwyd canmoliaeth am fedrau’r plant wrth wrando a mwynhau, maent hefyd yn canmol eu “medrau mathemategol cadarn ac yn defnyddio iaith fathemategol yn ddeallus ac mewn cyd-destunau cywir… eu medrau corfforol a datrys problemau … trwy ystod o weithgareddau diddorol y tu mewn a thu allan.”
Mae’r adroddiad yn mynd ymlaen i nodi “Maent yn gweithredu’n ddiwyd i sicrhau bod eu prosesau effeithlon yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar greu gwelliannau cyson yn neilliannau’r plant trwy gynnig profiadau hynod ddifyr ac ysgogol o fewn awyrgylch Gymreig”.
Meddai un fam ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn ddiolchgar iawn am waith caled staff y Cylch a bod y plant yn mwynhau yn fawr iawn yno.
Ac ymhlith y cyfarchion a dderbyniodd y Cylch, o ganlyniad i’r arolwg, roedd llythyr o gymeradwyaeth oddi wrth yr Aelod Seneddol, Ben Lake. Llongyfarchiadau i Gwen Davies a’i chriw am eu gwaith clodwiw gyda’r plant.
Llongyfarchiadau enfawr i Gylch Meithrin Pontrhydfendigaid am eich gwaith anhygoel ac am y ganmoliaeth uchel yma gan ESYTN- ymlaen am y 50 o flynyddoedd nesaf…..
Dewch o hyd i ‘Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid’ ar Facebook