Crwydro Llangeitho

Un o bentrefi hanesyddol Ceredigion

gan Cyril Evans
Sgwar Llangeithio c. 1885 gan John Thomas
Crwydro Llangeitho - dechrau'r daith
Sgwar Llangeitho 25/5/2023
Elin Morse yn olrhain hanes y teulu
Bedd Daniel Rowlands a'i deulu yng nghangell Eglwys Sant Ceitho
Pwlpit gwreiddiol Daniel Rowlands yn Eglwys Sant Ceitho
Neuadd y Jiwbili, Llangeitho a diwedd y daith

Ar noson fendigedig o Fai, cynhaliwyd taith dywys o amgylch pentre’ hanesyddol Llangeitho. Cynhaliwyd y noson dan nawdd Cymdeithas Hanes Tregaron a’r Cylch, a’r tywyswyr oedd Daniel Thomas a Sarah Evans, y ddau’n frodorion o’r pentref ac wedi’u trwytho yn ei hanes a’i draddodiadau.

Daeth hanner cant o bobl ynghyd i ymuno â’r daith, nifer ohonynt wedi teithio o bellter i fynychu. Cychwynnwyd yn Neuadd y Jiwbilî, gyda gair o groeso gan Cyril Evans a Daniel Thomas cyn dechrau ar y daith.

Wrth adael y neuadd gwelwyd Cae’r Gymanfa, cael hanes dyn llaeth y pentre’,
clywed hanes Bertie Stephens a chlywyd recordiad o’i lais yn canu un o’i faledi enwog. Ar y sgwâr clywyd hanes y busnesau lleol a’r adeiladau, rhai wedi eu dymchwel er mwyn adeiladu’r gylchfan – y cyntaf a’r fwyaf yng Ngheredigion. Roedd y pentre’ yn fwrlwm o fusnesau, siopau masnachol a thafarndai. Hefyd ar y sgwâr, rhoddodd Elin Morse hanes ei mam-gu a thad-cu, Marie a David James a’u cyfnod yn rhedeg Siop yr Albion, y Swyddfa Bost a’r cwmni bysys enwog a fel y bu’r cartref yn fwrlwm o weithgareddau diwylliannol Cymraeg.

Ymlaen wedyn i Gapel Gwynfil lle cafwyd hanes yr Achos, a chyfle i sôn am Annie Jane Davies, Cwrt Mawr sydd wedi ei chladdu ym mynwent y capel. Roedd hi yn un o’r gwragedd wnaeth drefnu deiseb heddwch merched Cymru gan fynd a’r ddeiseb o 390,296 lofnodion i’r Amerig ganrif yn ôl i eleni. Ymlaen i’r ysgol a chael hanes addysg yn y pentref, cyn cyrraedd Manod, lle cafwyd hanes Mari Lewis, un o gwiltwyr proffesiynol olaf yr ardal .

Yn Eglwys Sant Ceitho gwelwyd bedd Daniel Rowlands a’i deulu, ynghyd a’r pwlpit gwreiddiol lle bu’n pregethu. Yn y fynwent cafwyd hanes David a Mary Richards. Roedd David yn organydd yng Nghapel y Tabernacl yn Kings Cross, Llundain ac fe gyfansoddodd un o’r caneuon enwocaf sydd gennym sef Cymru Fach. Wrth i ni sefyll o gwmpas y bedd canwyd y gân arbennig honno fel teyrnged iddo.

Daeth y noson i ben nôl yn Neuadd y Jiwbilî, lle cafwyd cyfle i edrych ar arddangosfa o greiriau, ffotograffau, dogfennau, a ffilmiau gwerthfawr oedd wedi’u paratoi ar ein cyfer yn olrhain hanes cyfoethog y pentre’, a chyfle am sgwrs dros baned.

Talwyd diolchiadau gwresog gan Margaret Jones o Dregaron. Yn bendant fe fydd y noson hon yn aros yn y cof am amser hir, a diolch i bawb a  gyfrannodd at noson i’w chofio.