Colled

Teyrnged Dai Lloyd Evans, gan Beti Griffiths

gan Efan Williams
IMG-7293

Trist fu clywed am farwolaeth Dai Lloyd Evans, Tregaron  wedi cyfnod o salwch.

Cardi i’r carn oedd Dai Lloyd Evans a gwerthoedd gorau Ceredigion yn rhan annatod o’i gyfansoddiad. Cafodd ei fagu a’i feithrin ar fferm Penlan, Swyddffynnon ac roedd yn ŵr diwylliedig o’i gorun i’w sawdl. Ffermwr wrth reddf ac yn ddiweddarach bu ef a’i deulu yn ffermio ym Mhenrallt Tregaron.

Diolch ei fod wedi mentro i’r byd gwleidyddol oherwydd fe wnaeth cefn gwlad Ceredigion elwa’n fawr o’i gyfraniad a’i ddyfalbarhad. Cynrychiolodd ardal Lledrod ar y Cyngor am nifer helaeth o flynyddoedd ac roedd dyfodol cefn gwlad yn hollbwysig iddo. Brwydrodd yn ddygn dros ddyfodol yr Ysgolion bach gwledig oherwydd sylweddolai mai hwy oedd calon y gymdeithas ac erbyn hyn gwelir mai ei athroniaeth ef oedd yn gywir. Roedd am i blant fod yn ymwybodol o’u gwreiddiau a’u cymunedau. Fel y dywedodd yr Addysgwraig, Cassie Davies flynyddoedd ynghynt: “Does dim daioni yn dod wrth glymu maes wrth faes.”

Ymhen amser gwelodd ei gyd-gynghorwyr ei fod yn meddu ar y prif gymwysterau i fod yn Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a chyflawnodd y swydd gyfrifol honno yn ddoeth a chadarn am flynyddoedd.  Mae yna adnod yn Llyfr y Diarhebion yn berthnasol iawn i Dai Lloyd Evans:

“Dyn dau-ddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd.” Na, roedd Dai bob amser yn gadarn a di-wyro.

Pan yn iau bu’n aelod selog a gwerthfawr o Glwb Ffermwyr Ifainc Ystrad Fflur ac fel y gellid disgwyl, yn gystadleuydd peryglus yn yr Ymrysonau Siarad Cyhoeddus a’r Ddrama. Gŵr diwylliedig, yn falch o’i wreiddiau.

Trosglwyddodd ddogn helaeth o’r gwerthoedd a etifeddodd i’w blant ei hun. Diolch iddo am ei gyfraniad cyfoethog i’w fro a’i sir. Erys gwaddol deg yn gofadail deilwng iddo.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf a’i weddw, Margaret, y plant a’r holl deulu yn eu hiraeth a’u colled.

“Llaw yr Iôr dry’r golled hon

Yn gyfoeth o atgofion”.

Beti Griffiths.