Clecs Caron – James Walton

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, James Walton.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Enw:     James Walton

Cartref: Pontrhydfendigaid

Gwaith: Arholwr i IELTS, Cyngor Prydeinig

Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hapus, di-daro, ffyddlon

Unrhyw hoff atgof plentyndod.
Gwerthu gwair yn y lori gyda fy nhad

Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Cerdded mewn i ddrws gwydr tra’n dal tri pheint yn Benidorm

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.
I barchu pawb

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?
Tria’n galetach yn yr ysgol

Ble mae dy hoff le yn y byd i gyd?
Beijing

Y peth gorau am yr ardal hon?
Cefn gwlad brydferth a’r golygfeydd

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Diffyg gwasanaethau bws a thrên

Wyt ti’n difaru rhywbeth?
Nes i ddim gweithio’n ddigon caled yn yr ysgol.

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyd i ti?
Paid byth â rhoi’r gorau iddi

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?
Symud i Tsieina yn 2003

Beth yw dy hoff air?
Anghredadwy

Dy wyliau gorau?
Taith trên Transsiberia o Beijing i Foscow

Dere ag un ffaith ddiddorol amdanat ti.
Roeddwn i’n byw yn Wuhan, cartref Covid, am fwy na 10 mlynedd

Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd?
Sefydlu cwmni ‘Teifi Toastie Co’

Naill ai neu:

  1. Te neu goffi? Te
  2. Y traeth neu’r mynyddoedd? Mynyddoedd
  3. Facebook neu Twitter? Facebook
  4. Android neu iPhone? iPhone
  5. Nadolig neu ben-blwydd? Nadolig
  6. Ffrwythau neu lysiau? Ffrwythau
  7. Bara gwyn neu frown? Sourdough
  8. Tywydd oer neu dwym? Twym
  9. Codi’n gynnar neu aros lan yn hwyr? Codi’n gynnar
  10. Starter neu bwdin? Starter

Os am ddarllen y cyfweliad yn llawn, ewch i ddarllen papur bro Y Barcud. Dyma rai cwestiynau y bydd James yn eu hateb yn Y Barcud:

Beth sy’n mynd ar dy nerfau?
Beth yw dy ddiddordebau?
Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario?
Beth sy’n codi ofn arnat?
Pryd llefaist ti ddiwethaf?
Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen?
Byw dy ddiod arferol?
Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Yn ateb cwestiynau Clecs Caron y tro nesaf: Mary Lewis