Clecs Caron – Aled Dark

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, Aled Dark.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
image0

Enw: Aled Dark

Cartref: Tregaron (yn wreiddiol o Bontrhydfendigaid)

Teulu: Rhian, Gwenno, Megan a Mabli Jên

Gwaith: Dosbarthwr parseli

Disgrifia dy hun mewn tri gair:  Cyfeillgar, cymwynasgar, hapus.

Hoff atgof plentyndod: Slejo lawr Penbannau yn yr eira gyda fy ffrindiau.

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn: Roedd Mamgu wastad yn dweud nad yw hi’n costi dim i ddweud diolch.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed? Tria’n galetach yn yr ysgol.

Beth yw’r ‘row’ mwyaf i ti gael? Dwi’n cofio cael row gyda fy athro hanes, ‘Pocer’ am wneud sbort ar ben fy ffrind  (Heulyn Hambon) yn cael ei hela allan o’r dosbarth.  Yn y diwedd, ges i fy hela mas i gadw cwmni iddo ar ôl pryd o dafod na wnaf i fyth anghofio.

Beth wyt ti’n bwyta i frecwast? Porej a phaned o goffi.

Pryd a ble wyt ti fwyaf hapus? Yn y garej gyda Dadcu Bont.

Pwy yw dy arwyr? Dai Manley, asgellwr Pontypridd nôl yn y 90au a Colin McRae.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon? Pawb yn gwybod busnes pawb (er bod ‘da fi ddim byd i gwato)

Beth sy’n dy wneud yn ‘stressed?’ Gwaith yn ystod yr wythnosau cyn y Nadolig.

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario? Pwll nofio ac astro turf i Dregaron. Safio lot o hôl ac hebrwn y merched o bob man.

Beth sy’n codi ofn arnat? Corynnod a Rhian!!

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti?  Trin pobl fel hoffet ti gael dy drin.

Beth yw dy hoff air? Annibendod

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?  Regan King

Eich gwyliau gorau? Mynd i Gernyw gyda’r teulu

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen? Stranger Things

Hoff emoji: 🙈

Os am ddarllen y cyfweliad yn llawn, darllenwch Y Barcud mis Mawrth.

Clecs Caron tro nesaf… James Walton.