O lwyfan Theatr Felinfach galwodd y Prifardd Dylan Iorweth ar Lywodraeth Cymru i adolygu setliad ariannol mudiad y Ffermwyr Ifanc yng Nghymru. Mynnodd fod angen gwell cydnabyddiaeth i ymdrech wirfoddol yr aelodau a’i harweinwyr i gynnal yr iaith a’r diwylliant yng nghefn gwlad. Ychwanegodd fod mudiad CFFI Cymru yn allweddol i strategaeth y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, a bod angen cynllun ariannol hir dymor i gefnogi hyn.
Roedd Dylan Iorwerth yn Llywydd y noson yng nghystadleuaeth hanner awr o adloniant CFFI Ceredigion. Mae Dylan wedi cefnogi’r mudiad ers cwarter canrif a chyfrannodd yn fawr i’r perfformiad buddugol eleni.
Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd Meirian Morgan Cadeiryddes CFFI Ceredigion “Fel mudiad rydym yn cefnogi sylwadau Dylan. Mae’r mudiad yn cynnig nifer helaeth o gyfleuoedd i ieuenctid gwledig Cymru, ac yng Ngheredigion mae’r profiadau yma trwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yn unig cystadleuthau sydd o fewn y calendr ond mae hefyd yn creu cyfle i fobl ifanc ein cymunedau i ddod at ei gilydd”
Bu’r gystadleuaeth hanner awr o adloniant yn lwyddianus iawn i CFFI Ceredigion eleni eto. Mewn theatr lawn bob nos cafodd y beirniad Sion ‘Midway’ Rees lot o hwyl yn gwylio perfformiadau 13 o glybiau. Dyfarnwyd Clwb Pontsian yn fuddugol, Bro’r Dderi yn ail a Felinfach yn drydydd. Yn ei feirniadaeth rhoddodd Sion ganmoliaeth uchel o berfformiad ‘Ie Pontsian’ ac awgrymodd y byddant yn siwr o wneud yn dda iawn yn y gystadleuaeth genedlaethol ym Mangor penwythnos nesa.
Dyma’r canlyniadau yn llawn
Actor Gorau 16 neu iau
3ydd – Ifan Meredith, Bro’r Dderi a Gruffydd Llwyd-Dafydd, Bro’r Dderi
2il – Emrys Jones, Tregaron a Dafi Williams, Talybont
1af – Osian Jones, Mydroilyn
Actores Orau 16 neu iau
3ydd – Martha Thomas, Bro’r Dderi
2il – Elin Williams, Tregaron
1af – Betrys Llwyd-Dafydd, Bro’r Dderi
Actor Gorau
3ydd – Dafydd James, Troedyraur
2il – Huw Evans, Llangwyryfon
1af – Endaf Griffiths, Pontsian
Actores Orau
3ydd – Alaw Mair Jones, Felinfach a Ceri Jenkins, Llanddewi Brefi
2il – Beca Williams, Talybont
1af – Lowri Jones, Bro’r Dderi
Cynhyrchydd Gorau
3ydd – Talybont
2il – Felinfach a Pontsian
1af – Elliw Dafydd, Bro’r Dderi
Sgript Orau
3ydd – Llanwenog
2il – Tregaron
1af – Felinfach
Perfformiad Technegol Gorau
1af – Trisant
Canlyniadau Terfynol
6ed – Talybont
5ed – Llanwenog
4ydd – Troedyraur
3ydd – Felinfach
2il – Bro’r Dderi
1af – Pontsian