Capel Bwlchgwynt

Gwasanaeth Pob Oed

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Bore Sul, 16 Ebrill croesawyd pawb i’r Gwasanaeth Pob Oed gan y Parchg. Carwyn Arthur.  Cyflwynwyd yr emynau gan Dutt Panchal, Arthur Evans, Mr. John Williams a Mr. Gerald Morgan.  Darllenwyd ‘Anghrediniaeth Thomas’ gan Lisa Jones ac offrymwyd gweddi gan Nel James.

Thema’r gwasanaeth oedd yr Atgyfodiad ac edrychodd y plant mewn syndod ar y Bugail yn gwisgo ei siaced o chwith gyda’i dei ar dro!!  Eglurodd fel roedd pob un oedd yn bresennol yn y festri y bore hwn yn dystion i beth oedd wedi ei wneud!   Soniodd am y tystion a welodd y bedd gwag ar y trydydd dydd  a chredu yn yr atgyfodiad.   Cafwyd neges fendithiol i’r oedolion i gloi’r gwasanaeth.  Cyfeiliwyd gan Alice Jones a chasglwyd gan Dutt ac Arthur. Cyhoeddwyd a diolchwyd i bawb am gymryd rhan gan Gareth Jones.