Cangen Tregaron yn dathlu Gŵyl Ddewi

Merched y Wawr Tregaron

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Nos Fercher, 1af o Fawrth bu’r gangen yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y Clwb Bowlio yng nghwmni aelodau o gangen Bronant. Croesawyd pawb gan Catherine Hughes y Llywydd a dechreuwyd trwy ganu anthem y Mudiad.

I ddilyn cafwyd gwledd o gawl, tarten afal, pwdin reis a chage bach ac roedd y cyfan yn flasus iawn. Roedd yr arddangosfa o Gennin Pedr a’r blodau ar y byrddau yn harddu’r Clwb.

Yna croesawyd Merched Soar o dan arweiniad Carys Mai gyda Nia Medi yn cyfeilio.  Arweiniwyd y noson gan Enfys Hatcher Davies a chafwyd amrywiaeth o eitemau gan aelodau’r côr yn canu Alawon Gwerin ac emynau. Bu unigolion yn llefaru ac yn cyflwyno darlleniadau a chafwyd datganiad hyfryd ar y delyn gan Heledd Mitchell.

Barn pawb oedd ein bod wedi cael noson ragorol i ddathlu Gŵyl ein Nawddsant gyda neges glir i gofio geiriau Dewi Sant ‘gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi’.

Talwyd y diolchiadau gan Delyth Humphreys o gangen Bronant gan ddiolch yn gyntaf i aelodau’r Clwb Bowlio am y wledd arbennig a baratowyd ar ein cyfer. Diolchwyd i Ferched Soar am gynnal noson wefreiddiol. Canmolwyd hwy hefyd am eu hymroddiad i ddod at ei gilydd a rhoi o’u hamser i ddiddanu a chadw Cymreictod yn y Gymdeithas.

Ategwyd at y diolchiadau gan Margaret Jones a llongyfarchodd Ffion Medi Lewis-Hughes am ei herthygl ‘Mam fach’ sydd wedi ymddangos yn rhifyn cyfredol o gylchgrawn Y Wawr. Y gyntaf o lawer gobeithio Ffion!

Tynnwyd y raffl ac fe enillwyd y gwobrau gan nifer o aelodau lwcus! Gorffennwyd trwy ganu ‘Hen Wald fy Nhadau’ cyn ffarwelio.