Wil Evans, Garreg Lwyd, Tregaron yw pencampwr Rasio Glas (Autograss) o dan 16 oed Prydain yn 2023.
Mae Rasio Glas yn ddiddordeb mawr i’r teulu, sydd o ddydd i ddydd yn rhedeg cwmni bysus Evans Tregaron. Bu tad Wil – Emyr Evans a’i ewythr Rhydian yn rasio ers blynyddoedd. Mae brawd iau Wil – Iago hefyd yn gystadleuol ar lefel cenedlaethol. Mae’r teulu yn perthyn i Glwb Rasio Glas Teifi, sydd a’i trac ym Mhentywyn ac maen’t yn teithio o amgylch Prydain ac Iwerddon yn ystod misoedd yr haf i wahanol rasus.
Mae rasio glas yn boblogaidd iawn ac mae’r cyfarfodydd yn denu cannoedd o geir bob tro. Mae dros 10 gwahanol ddosbarth o geir yn ôl ei maint a’i pŵer – y dosbarth Junior Saloon sef ceir hyd at 1000cc daeth a llwyddiant i Wil. Roedd pum cymal i gystadleuaeth Prydain, a Wil gafodd y nifer fwyaf o bwyntiau dros y gyfres yn Sir Efrog, Scunthorpe, Gwlad yr Haf, Marlow ac ‘adref’ ym Mhentywyn.
Roedd Wil yn ddiolchgar am help eraill i ennill y Bencampwriaeth ” Fi’n ddiolchgar i Mam a Dad ac eraill am baratoi’r car ac ein dreifio ni rownd y wlad i’r rasus” meddai. “Fi’n edrych mlan i dymor nesa, er mwyn cael rasio unwaith eto a gobeithio amddiffyn y tlws” ychwanegodd.
Mae’n bosib gweld uchafbwyntiau rhai o rasus Wil ar S4C Clic https://www.s4c.cymru/clic/programme/876893195
Pob dymuniad da i’r dyfodol i Wil ac Iago yn Rasio Glas!