Urddo Ieuan Davies Ffair Rhos

Mwy o Eisteddfod Genedlaethol 2022

gan Gwenllian Beynon
Ieuan-Davies-Ffair-RhosIeuan Davies

Ieuan Davies Ffair Rhos

Gwnaeth Ieuan Davies o Ffair Rhos aros tan y foment ore i gael ei urddo i orsedd y beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Brodor o Rydcymerau, Sir Gaerfyrddin yw Ieuan yn wreiddiol. Symudodd i ardal Pontrhydfendigaid yn 1986 ar ôl cael swydd gyda Youngs y gwneuthurwyr dip a moddion anifeiliaid.

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Llanymddyfri cyn cael ei dderbyn i Goleg Prifysgol Dewi Sant, Llambed (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fel y gelwir heddiw) i astudio’r iaith Gymraeg lle y derbyniodd ei radd yn y Gymraeg yn 1985.

Meddai Ieuan,

“Rwyf wedi ymgartrefi yn Llidiart y Ffair, Fair Rhos bellach gyda fy ngwraig Joanne ac rydym wrth ein boddau yn byw yno ger y pentre’.”

Ar ôl aros 37 o flynyddoedd i gael ei urddo mae wedi gallu gwneud hynny 6 milltir o’i gartref yn Ffair Rhos.

“Roedd yn wych gallu cael fy urddo mor agos i adref, roedd wir werth aros cymaint o amser”

Llongyfarchiadau mawr i Ieuan ar gael ei urddo i’r Orsedd ar sail ei radd yn y Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol, Tregaron eleni.