Tregaron. Twll o le? 

Tregaron. Cartref Eisteddfod 2022. Dewch ar daith o gwmpas y dref gyda Megan a Zara i chwalu’r myths

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Mae’r Eisteddfod ar y gorwel!
Pwy sy’n dod i’n tref enwog?

Cafodd y ffilm yma ei chreu yn haf 2020 pan oedd yr Eisteddfod i fod i ymweld â’r fro yn wreiddiol, ond mae’r neges yr un mor wir.

Dyma brif swyddogion Ysgol Henry Richard, Tregaron ar y pryd yn ffilmio o gwmpas yr ardal. Roedd Zara Evans a Megan Dafydd yn ddisgyblion blwyddyn 11 ar y pryd ac yn ymfalchïo yn eu gwreiddiau a’u bro. (Mae’r ddwy bellach yn y chweched dosbarth yn ysgol Bro Pedr, Llambed.)

Yn y fideo yma, mae nhw’n eich tywys o gwmpas Tregaron, yn rhoi taw ar ambell ddelwedd a myth. Dewch am dro!

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.