Gallwch chi enwi mwy?
Gwyn Hughes yw fy Dad cu, a Gwynfryn Hughes yw fy wncl ??
Sylfaen clwb pêl-droed gwledig yw teulu, ac ar achlysur dathlu Clwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid (Clwb y Bont) yn 75oed mae’n hynod ddiddorol edrych ar sawl aelod o’r un teulu sydd wedi gwisgo’r crys oren llachar byd-enwog!
Mae’r cyn-ohebydd newyddion John Meredith yn Llywydd newydd ar y clwb eleni. Bu’n gapten yn 1967 gan ddilyn ôl traed ei dad fel chwaraewr, a chwaraeodd dau fab John i Bont yn y 90au yn ogystal â mab ei frawd.
Dyma rai aelodau eraill o’r un teulu sydd wedi cael yr anrhydedd o chwarae dros Glwb y Bont:
• Wil John a Glyndwr Hughes
• Jim Jones a’i feibion Dai John a Robert (Hoff)
• Gwyn a Gwynfryn Hughes, Llwyngwyddil
• Ted a Trystan Jones
• Lyn a Dylan Ebenezer
• Gwilym Evans a’i feibion Aled ac Iwan
• Arwyn a Sion Hughes, Brynhope
• Richard (Dici Mint) Jones, ei fab Sion a Geraint ei frawd
• Ian Hughes a’i feibion Trystan a Gwydion
• Raymond, Ceri a Ben Jenkins
• Dewi ac Ifan Evans, Tynrhos
• Michael a Scott Lowe
Gallwch chi enwi mwy?
Gwyn Hughes yw fy Dad cu, a Gwynfryn Hughes yw fy wncl ??
Wedi derbyn neges i ddweud bod pedair cenhedlaeth o ‘Hughesiaid’ wedi chwarae dros Bont; John, Idris, Geoffrey a Meilyr Hughes o Dregaron…ardderchog!
Dim ond rhai enwau i gychwyn y drafodaeth sy’n yr erthygl, mae’n siwr bod llawer mwy…ychwanegwch eich enwau at y sgwrs!