Sioe Maes G

Ieuenctid CFfI Ceredigion

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
IMG_20220801_210312
IMG_20220801_210435
IMG_20220801_205435

Tro mudiad y Ffermwyr Ifanc oedd hi i berfformio ar lwyfan y Brifwyl neithiwr. Enw’r sioe oedd Maes G, gyda’r ‘G’ yn fyr am Gwyddno a chwedl Cantre’r Gwaelod.

Trafodwyd themâu a thestunau pwysig a chyfoes iawn yn y cynhyrchiad, gwirioneddau sy’n cyffwrdd â’n bywydau ni bob dydd yng nghefn gwlad Ceredigion. Cawson ni ein cyflwyno i bryderon ieuenctid ein Sir ni mewn modd hwyliog a bywiog. Rhai o’r pynciau llosg oedd prinder gwaith a chartrefi, ail-gydio mewn bywyd ar ôl cofid, colli ein hieuenctid, yr iaith Gymraeg, cariad, mewnfudo, tai haf ac wrth gwrs, iechyd a diogelwch.

Roedd sain y canu yn bwerus a’r dawnsio yn llawn bywyd. Roedd y cast i gyd yn gwybod eu gwaith ac yn amlwg yn joio bob munud o fod ar y llwyfan!

Mae nifer o olygfeydd yn aros yn y cof, ond un o fy hoff rannau oedd y triawd gan Lowri, Mared a Heledd. Addasiad o’r alaw werin deimladwy “Ffarwel i Aberystwyth” oedd y gân. Roedd yr ailadrodd “ffarwel i…” bob tro’n hynod bwerus, gyda’r triawd hyfryd yn rhestru’r holl bethau gwych mae person ifanc yn gorfod ffarwel â nhw ac yn eu colli wrth symud i ffwrdd o’r ardal. Yn y cefndir roedd sgrin yn cyflwyno ffeithiau ac ystadegau brawychus am ieuenctid Ceredigion. Golygfa emosiynol.

Gwrthgyferbyniad i’r olygfa hon oedd y sgetsh glyfar am y cyfryngu. Roedd Cari yn actio cyfarwyddwr teledu yn ffilmio yng nghefn gwlad. Roedd y chwarae ar eiriau wrth gyfieithu yn ddoniol a chraff iawn. Pwrpas yr olygfa mae’n siŵr, oedd dangos y bwlch sydd rhwng pobl y wlad a phobl y ddinas yn aml iawn. Roedd hi’n tynnu sylw at y ffaith ein bod ni’n cael ein camddeall a’n hystrydebu’n aml iawn.

Fel y gwelwch, roedd y dwys a’r digri’n bresennol yn y sioe. Roedd cyflwyno’r negeseuon dwys mewn modd ysgafn fel hyn yn apelio’n fawr at y gynulleidfa rwy’n teimlo.

Dylan Iorwerth oedd awdur y sioe a Dwynwen Llywelyn oedd yn cynhyrchu’r cyfanwaith.

Dywedodd Dwynwen,

“**Sefyll ar ein traed, gyrru ffawd ar ffo,
Er mwyn cefen gwlad, er mwyn hyder bro.**

Diolch i’r criw dawnus yma o aelodau CFFI Ceredigion. Roedd yn fraint ac yn her ac yn hwyl cael cydweithio gyda chi a’r tim cynhyrchu Sioned Hâf Thomas Einir Ryder Anne Jones Huw Evans, Dylan, Carys Hâf, Steffan a’r band, y cyfansoddwr Ryland Teifi a’r awdur Dylan Iorwerth. Diolch hefyd i gerddorion dawnus Ceredigion am gael defnyddio’u cerddoriaeth, Jess, Ail Symudiad ❤, Meilir Jones, Richard Marks, Doreen Lewis.”

Llongyfarchiadau i’r hol gast a’r tîm i gyd! M