Ar ddydd Sadwrn yr 20fed o Awst roedd Sioe Bont yn ôl yn ei anterth mewn lleoliad newydd ym Mhafiliwn Bont. ‘Falle bod y symud ddim yn siwtio pawb ond yn sicr roedd pwyllgor y sioe wedi llwyddo i wneud defnydd ardderchog o’r Pafiliwn a’r ddaear o’i amgylch ar gyfer y sioe eleni.
Roedd yn wych gweld y Sioe yn ôl eleni ar ôl bach o seibiant amlwg- er iddynt gynnal cneifion yn nhafarn y Llew Coch y llynedd gan nad oedd yn bosib cael trywydd i gynnal y sioe yn 2021.
Penderfynodd pwyllgor y sioe i symud y sioe i Bafiliwn Bont o gaeau Dolfawr yn bennaf oherwydd cynnydd aruthrol yn nghost pebyll mawrion, a fyddai fel arfer yn cael eu defnyddio ar gyfer y dosbarthiadau Garddwriaethol a Chrefftau ac yn y blaen.
Meddau Gareth Owen Cadeirydd y sioe ar raglen Geraint Lloyd ar BBC Radio Cymru nos Fercher (yr wythnos diwetha)
Rydym yn lwcus iawn, yn Bont, i gael digon o le i gynnal y sioe yn y Pafiliwn felly byddwn yn mentro yno eleni ar ôl bod yng nghaeau Dolfawr am nifer fawr o flynyddoedd.
Roedd llawer o waith gan y pwyllgor i’w wneud i baratoi’r pafiliwn, y tir a’r lleoedd o amgylch y pafiliwn yn barod ar gyfer y sioe.
Meddau Gareth, cyn y sioe
Bydd y defaid, cŵn a hen beiriannau tu allan, hefyd rydym wedi bod yn paratoi a rholio’r caeau yn barod i’r ceffylau. O ran y gwartheg rydym am nifer o flynyddoedd wedi bod yn mynd i’r ffermydd a thynnu ffotograffau a dyna sut y byddwn yn beirniadu nhw.
Roedd yr holl drefniadau wedi llwyddo ac ar y diwrnod roedd cystadlaethau’r defaid, ceffylau a hen beiriannau tu allan, a’r caffi, bar, lluniau o’r gwartheg gan gynnwys y rhai buddugol ar y wal y tu fewn a digonedd o gystadlu gan bob oedran yn y dosbarthiadau Garddwriaethol a Chrefftau. Roedd y rhain wedi eu gosod yn daclus ac mewn trefn ar fyrddau yn y pafiliwn. Roedd yr holl ddosbarthiadau a’r cystadlu posib i’w gweld mewn llyfryn gan gynnwys holl noddwyr y sioe, a braf gweld llwyth o noddwyr i gefnogi digwyddiad pwysig mewn cymdeithas fel Pontrhydfendigaid.
Penderfynodd y pwyllgor barhau gyda’r cneifio yn y Llew Coch ar ôl llwyddiant y llynedd, gyda nifer o wobrau da i’w cael. O 5 o’r gloch ymlaen roedd y Llew Coch yn llawn bwrlwm a chyffro’r cneifio gyda phob oedran yn mwynhau’r cystadlu. Wrth gwrs parhaodd y dathlu ymlaen hyd y nos yn y Llew Coch. Gwych iawn gweld y gymuned yn dod at ei gilydd am ddiwrnod o hwyl a chystadlu.
Mae nodyn gan y sioe ar eu tudalen Facebook
Diolch yn fawr i bawb a fu yn beirniadu, cystadlu, yn helpu, i’r noddwyr, i’r gynulleidfa, i’r trefnwyr y cneifio yn y Llew Coch a hefyd i’r Llywyddion Mr a Mrs Thomas Jones, Pengraig ar teulu am ei chefnogaeth. Braf yw cael Sioe Pontrhydfendigaid nol
Os am fwy o wybodaeth a lluniau ewch at Facebook /community Y Sioe