Sefydliad y Merched Llanddewi Brefi

Addurno heb oasis

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Wyddoch chi fod defnyddio oasis i addurno yn cael ei ystyried yn wael i’r amgylchedd? Daeth Beti Wyn Davies i’r Ganolfan, Llanddewi Brefi i ddangos ffyrdd amgen o osod blodau drwy ddefnyddio edafedd a chylch, tywod a phob math o ddeiliach.

Yn fuddugol o’r 22 ymdrech mewn noson hwylus dros ben roedd-

1af Lynn Thornborrow

2ail Alex Williams

3ydd Margaret Howells

Mae Sefydliad y Merched Llanddewi Brefi yn cwrdd ddwywaith y mis am 7.30yh ac yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Croeso i chi alw mewn.