Pennaeth Radio Cymru yn gwrthod siarad.
Neithiwr ar y 29ain o Fedi daeth rhaglen Geraint Lloyd i ben ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth i Radio Cymru. Daeth dros 500 o negeseuon iddo yn ystod y rhaglen rhwng 10p.m. a 12a.m. yn geisiadau, cyfarchion ac yn ddymuniadau gorau iddo.
Mae pobl wedi dangos sut maen nhw’n teimlo yn ddigon clir erbyn hyn am y penderfyniad wnaed gan Dafydd Meredydd, Pennaeth Radio Cymru i waredu rhaglen Geraint Lloyd o amserlen Radio Cymru a hynny mewn protestiadau, negeseuon testun, galwadau ffôn, e-byst a deiseb. Hyd yn hyn mae 1,975 wedi arwyddo’r ddeiseb ar-lein a 97 ar bapur sy’n gwneud cyfanswm o 2,072 o enwau. Dywedodd Emyr Llywelyn:
“Y bobl ddylai fod piau’r cyfrwng a nhw ddylai benderfynu ar barhad rhaglen Geraint Lloyd ac nid chwiw gwas cyflog. Corfforaeth gyhoeddus yw Radio Cymru yn atebol i ni – y cyhoedd – ac nid ydym am dderbyn polisi o ganoli darlledu sy’n methu rhoi llais i ni.”
Yr wythnos hon cytunodd Dafydd Meredydd i ddod i gyfarfod y gwrandawyr yng Nghaerfyrddin fore dydd Mercher i ateb eu cwestiynau. Yna newidiodd e’r dyddiad i ddydd Iau a hynny i’w gynnal dros Zoom. Ond newidiwyd eto ganddo a cytunodd i gwrdd dros Zoom heddiw 30-Medi am 1yp i ateb eu cwestiynau. Ond, 10 munud cyn y cyfarfod dywedodd DM nad oedd yn gallu dod i’r cyfarfod. Felly mae e wedi osgoi siarad dair gwaith erbyn hyn.
Does dim rheswm digonol wedi ei roi ganddo eto chwaith. Ffigyrau wedi mynd lawr oedd y rheswm yn gyntaf ond does dim tystiolaeth o hyn. Yna newidiodd y rheswm i, yng ngeiriau’r pennaeth “Mae’r BBC yn gorfod edrych o’r newydd ar eu hallbwn a sicrhau y gwerth gorau am arian i’r gynulleidfa”. Eto, ddim yn dal dŵr gan fod rhaglen Geraint Lloyd yn un o’r rhai rhata i’w chynnal. Roedd Geraint nid yn unig yn cyflwyno ond roedd yn peiriannu’r ddesg, ac yn rhan ganolog o’r gwaith ymchwil gyda’r tîm cynhyrchu.
 Emyr Llywelyn ymlaen trwy ddweud:
“Bu brwydr galed i sicrhau bod ein cymdeithasau Cymraeg yn cael eu hadlewyrchu ar y cyfryngau a gwnaeth Geraint Lloyd gymwynas enfawr â ni wrth gyflawni hynny… Mae diddymu ei raglen nid yn unig yn sarhad personol iddo fe ond hefyd yn sarhad i ni’r gwrandawyr.”
Mae trafodaethau wedi cychwyn gyda chlybiau Teithiau Tractorau Cymru a gyrwyr lorïau (Clwb Bois y Loris) i deithio yn eu tractorau a’u loriau i’r BBC yng Nghaerdydd i ddangos nerth eu gwrthwynebiad i’r modd y mae Geraint Lloyd a’i gynulleidfa wedi’u trin gan y BBC.
“Os yw Radio Cymru am dyfu i’r dyfodol fel prif orsaf radio Gymraeg Cymru, rhaid iddi ddal gafael yn ei chynulleidfa graidd, sef y gynulleidfa wledig Gymraeg. Mae Geraint Lloyd wedi ei wreiddio’n ddwfn yn y diwylliant hwn, ac yn rhan annatod ohono. Byddai cael gwared o Geraint o raglenni Radio Cymru yn gamgymeriad o’r mwya, ac yn prysuro tranc y gwasanaeth allweddol hwn i genedl y Cymry.”
Dafydd Iwan
“Rhaglen Geraint oedd un o’r ychydig raglenni gyda’r nos lle nad oedd dim cerddoriaeth Eingl- Americanaidd yn cael ei chwarae , ac felly yn rhoi mwy o gyfle i artistiaid Cymraeg gael eu clywed ar y radio” Bryn Fôn
“Mae Radio Cymru yn orsaf ‘cenedlaethol’ ar bapur ond yn wir mae’n debycach i radio cymunedol lle mae unrhyw un yn rhydd i gysylltu, cyfrannu a rhannu profiadau gyda’r cyflwynwyr y maen nhw’n teimlo’n agos ato, gan wybod bydd y neges yn cael ei darllen neu’r digwyddiad bach yn cael sylw. Mae’n syndod i fi yn bersonol felly bod Radio Cymru mor barod i waredu cyflwynydd a phersonoliaeth mor adnabyddus ac agos at ei gynulleidfa.” Welsh Whisperer