Cynhaliwyd Ymryson y Beirdd yr Ifanc yn y Babell Lên y prynhawn yma. Daeth 6 ysgol o’r Sir at ei gilydd i frwydro gyda geiriau.
Prosiect cyffrous gan Gyngor Sir Ceredigion oedd hwn gyda’r ysgolion yn derbyn mentor yr un i’w helpu.
Mentor Ysgol Henry Richard oedd Endaf Griffiths ac aelodau’r tîm oedd Gethin Bennett, Lleucu Jones, Ianto James, Elin Williams, Delun Davies ac Elain Jenkins.
Ers hanner tymor bellach mae’r tîm wedi bod yn barddoni yn eu hamser rhydd yn yr ysgol. Mae’r 6 wedi bod nôl ac ymlaen yn Ystafell 29 yn ysgrifennu, ail ddraffti, ymarfer ayyb. Daeth Endaf i’r ysgol 4 gwaith i gynnal gweithdai ac roedd ar ben arall ebost yn aml iawn hefyd, yn ymateb i geisiadau’r tîm ac yn cynnig cyngor neu ganmoliaeth.
48 a hanner allan o 50 oedd sgôr Ysgol. Henry Richard, yn ennill o hanner marc!
Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw!
Dyma rai o’r tasgau:
Cwpled (caeth neu rydd) yn cynnwys y gair MAES.
Y maes sy’n galw am un-
Ein henwog, selog Selwyn.
Pennill 4 llinell neu englyn ar y testun ‘Ceredigion.’
Siôn Cwilt a Twm Siôn Cati
a Cranogwen o’r môr,
Yn dod i’r sgwâr at Henry
i ganu fel un côr.
Dihareb fodern.
Sgrolio tik-tok, tic-toc y cloc!
Pennill telyn yn croesawu pobl i’r Eisteddfod.
Ar faes yr Ŵyl mae pawb yn dathlu,
Ar faes yr Ŵyl mae plant yn canu,
Ar faes yr Ŵyl mae babi’n sgrechian,
A mamau’n rhedeg rownd yn ffysan.
Cân Ddoniol ar y testun ‘Cystadlu.’
Perfformiodd y criw y gân i gyfeiliant yr iwcelelis. Cafodd y gân ymateb arbennig gan y gynulleidfa. Bydd y criw yn ei pherfformio eto ar lwyfan Pentref Ceredigion fore Llun am 10 os hoffech chi ei chlywed.
(Byddai ei hysgrifennu fan hyn ddim yn gwneud cyfiawnder â hi. Mae angen ei chlywed!)