Papur Bro Y Barcud

Mae rhifyn mis Rhagfyr Y Barcud bellach allan yn y siopau

gan Efan Williams

Mae rhifyn mis Rhagfyr allan yn eich siopau lleol erbyn hyn. Mae’n bryd i ni ddod ynghyd fel ardal i ddathlu’r Nadolig ac edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. Golygwyd rhifyn mis Rhagfyr gan Ioan Williams, Y Gwyndy, Lledrod a cheir sylw ar y dudalen flaen i gofeb y Pererin a ymddangosodd eto ger Ystrad Fflur.

Ceir hanes Eisteddfod CFFI Cymru, digwyddiadau Nadolig ein hysgolion lleol, colofn fisol Dafydd Owen, hanes byd y campau heb sôn am newyddion o bob pentref yn ardal Y Barcud.

Ymfalchïwn mewn meithrin cysylltiad agos rhwng papur bro Y Barcud a Caron360 a charem fel pwyllgor Y Barcud ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr Caron360. Ewch allan i hawlio eich copi a chefnogi ein papur bro. Dyma’r lleoliadau;

Aeron Booksellers, Aberaeron

Siop Glanarthen, Cross Inn

Siop y Smotyn Du, Llambed

Garej Jenkins, Tregaron

D.I. Davies, (Cigydd) Tregaron

Siop Brefi, Llanddewi Brefi

Siop Llangeitho

‘Rhen Ysgol, Bwlchllan

Llwyn Onn ac Ardwyn, Bronant

Anrhegaron, Tregaron

Siop Nwyddau Caron Stores, Tregaron

Siop y Bont, Pontrhydfendigaid

Llys yr Awel, Swyddffynnon

Wyre View, Lledrod (honesty box)

Siop Llanilar

Siop Blaenplwyf

Siop Inc, Aberystwyth

Siop y Pethe, Aberystwyth