Newidiadau teithio yn Nhregaron

System un-ffordd, clirffyrdd a chyfyngiad cyflymder yn ardal Tregaron yn ystod wythnos yr Eisteddfod, dydd Mercher 27 Gorffennaf – dydd Llun 8 Awst.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
System un-ffordd TregaronEisteddfod Genedlaethol

Bydd system un-ffordd yn y dref yn Nhregaron i osgoi tagfeydd traffig ac i gludo pawb yn ddiogel i faes yr Eisteddfod. Bydd y traffig yn symud yn wrthglocwedd o Ffordd yr Orsaf ar yr A485 i Stryd y Capel ar y B4343 ac yna tua’r gogledd tuag at Ysgol Henry Richard, ac yn ôl tuag at yr A485.

Cyfarwyddiadau teithio i faes yr Eisteddfod.Eisteddfod Genedlaethol

Wrth deithio i faes yr Eisteddfod, mae cyfarwyddiadau penodol ar gyfer ymwelwyr sy’n teithio o’r: gogledd orllewin, gogledd ddwyrain, de ddwyrain a’r de orllewin, ac o’r dwyrain.

O ddydd Mercher 27 Gorffennaf – dydd Llun 8 Awst, bydd system un-ffordd yn y dref yn Nhregaron i osgoi tagfeydd traffig ac i gludo pawb yn ddiogel i faes yr Eisteddfod. Bydd y traffig yn symud yn wrthglocwedd o Ffordd yr Orsaf ar yr A485 i Stryd y Capel ar y B4343 ac yna tua’r gogledd tuag at Ysgol Henry Richard, ac yn ôl tuag at yr A485. 

Bydd hefyd gorchmynion clirffordd dros dro (temporary clearway orders):

Ar yr A485 tua’r de o’r bont dros Afon Brenig

Ar y B4343 tua’r de o Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron

Ar yr A485 tua’r gogledd o Siop Fferm Riverbank

Ar y B4343 ar Ffordd Dewi ger Ysbyty Cymunedol Tregaron

Ar Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan

Bydd cyfyngiad cyflymder o 20mya hefyd mewn lle yng nghanol y dref, ardaloedd cyfagos ac wrth agosáu at Faes yr Eisteddfod yn ystod y cyfnod hwn.

Wrth deithio i faes yr Eisteddfod, mae cyfarwyddiadau penodol ar gyfer ymwelwyr sy’n teithio o’r:

gogledd orllewin

gogledd ddwyrain

de ddwyrain a’r de orllewin

y dwyrain

(gwelir map uchod)

Bydd arwyddion clir i gyrraedd y meysydd parcio o bob cyfeiriad, gyda meysydd parcio bathodyn glas hefyd wedi’u marcio’n glir. Annogir trigolion i ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus, i deithio ar gefn beic a’i adael yn ddiogel y tu allan i’r brif fynedfa neu i gerdded ar hyd y llwybr troed os yn bosib.