Murlun i ddathlu Eisteddfod Tregaron

Plant Ysgol Sul Bwlchgwynt ac artist lleol yn cydweithio

Manon Wyn James
gan Manon Wyn James
Murlun Criw Ysgol Sul Bwlchgwynt

Mae’r artist lleol, Gwawr Yim Jones wedi bod yn cydweithio gyda phlant Ysgol Sul Bwlchgwynt i greu murlun trawiadol i harddu tref Tregaron yn barod i’r Eisteddfod.

Mae’r murlun lliwgar sydd wedi ei leoli gyferbyn â’r parc chwarae yn y dref yn cynnwys rhai o nodweddion mwyaf eiconig yr ardal gan gynnwys Capel Soar y Mynydd, Twm Siôn Cati, y barcud, ciosg coch, sanau du, yr afon teifi a gwesty’r Talbot.

“Dwi erioed wedi gwneud dim byd tebyg i hyn, roedd yn dipyn o sialens!” meddai Gwawr Yim Jones sydd fel arfer yn arbenigo mewn gwaith tirluniau a phortreadau anifeiliaid gyda dyfrliwiau.

“Daeth y syniadau yn eitha naturiol. Dwi wedi tynnu lluniau o lot o’r nodweddion sydd yn y llun o’r blaen gan fy mod i’n lleol i’r ardal. Mae ’na cymaint o ddelweddau eiconig yn Nhregaron felly roedd digon o sgôp.”

Bydd gan Gwawr stondin ar Faes yr Eisteddfod yn yr Artisan gyda phrintiau o dirluniau ardal Tregaron a nwyddau gyda rhai o’i darluniau ar werth.