Stori fach gen i amdanaf i!
Dros fis Gorffennaf rwyf wedi bod yn mynd lan a lawr sgaffaldau, yn fy amser sbâr, yn ail beintio Murlun y Bont ac ar y 26ain o Orffennaf -diolch i Cambrian Scaffolding o Dalybont daeth y sgaffaldau i lawn i ddatgelu’r murlun ar ei newydd wedd.
Peintiwyd y murlun gyntaf yn 2008 ar ôl gweithio ar brosiect storiâu Gŵyl y Cyfarwydd gydag Euros Lewis a hefyd gyda phob un plentyn yn ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid, ar y pryd.
Buom yn ffodus hefyd ar y pryd i gael arian gan Ysbryd Y Mwynwyr ac felly gwnaethom ganolbwyntio ar elfennau o hanes Pontrhydfendigaid yn dechrau o tua adeg y mwynwyr yn yr ardal, yn cofio’r siopau a’r gwaith yn lleol, gwelsom ffotograffau o offer y gwaith mwyn, ac wrth gwrs pafiliwn Neuadd Pantyfedwen a’r pêl-droed.
Wrth ymchwilio i’r hanesion, ar y pryd, buom yn ffodus iawn i fedru casglu storiâu gan nifer o drigolion y pentref ac mae llawer wedi ein gadel erbyn hyn, pobl fel Rol Arch, Selwyn Jones, Myfanwy Huws, Alan Davies (Ef gwnaeth hefyd blastro’r slab o goncret ar y wal fel ein bod yn gallu peintio Murlun) ac eraill wrth gwrs. Y prif storïwyr yn y prosiect oedd Charles Arch a Lyn Ebenezer ac roedd y plant wir wrth eu boddau yn gwrando ar eu hanesion am Bont y gorffennol.
Lyn hefyd gwnaeth ysgrifennu’r cwpled ar y Murlun
Mwynwyr a Mwnci ac Eliffant,
Tylwyth Teg, Toili a chware plant.
Mae Lyn, wedi medru dal cyfansoddiad y murlun mor glyfar o’r weledol mewn geiriau.
Rhai o hoff storiâu’r plant oedd am anifeiliaid a thylwyth Teg gan gynnwys storiâu arswyd fel y Toili sef angladd ysbrydol, neu golau cannwyll megis golau ysbrydol yn ymddangos dros ben rhywun a’r Tommy cnocers lawr yn ddwfn yn y tyllau’r gweithfeydd mwyn. Yr eliffant ar fwnci wrth gwrs roedd y plant wrth eu boddau a nhw sef Eliffant Tregaron a gollodd ei fywyd trwy yfed dŵr yn llawn plwm wrth weithio yn y syrcas yn 1848 sydd wedi ei gladdu rhywle yn Nhregaron, a’r mwnci a fuodd yn byw ar ben sied y pentref yn y 50au ac wrth ei fodd yn bwyta losin! Roedd diwedd trist iawn gan y mwnci druan, gan i rai o fechgyn y pentref daflu cerrig ato. Daeth y mwnci yn rhydd a mynd ar ôl y plant a chnoi un ar gefn ei goes a chafodd y mwnci ei ladd wrth gwrs. Daeth y bachgen hynny, sydd bellach yn ddyn, nôl i’r ysgol i ddangos y graith ar ei goes i’r plant.
Wrth roi cot o baent ffres i’r murlun roedd yn wych gallu hel meddyliau am y cyfnod o gynllunio a chreu’r gwaith gwreiddiol gyda thrigolion y pentref a phlant yr ysgol, ac yna paentio’r murlun yn y gaeaf. Roeddwn hefyd yn hel meddyliau am y newidiadau yn yr ardal. Mae’r Celfyddydau yn beth diddorol am hynny.
Wrth beintio’r tro yma ges nifer o sgyrsiau gan bobl tra lan ar y sgaffaldau, un fam yn dweud ei bod mor falch fy mod yn rhoi cot o baent i’r murlun. Roedd ganddi hi gof sbesial am ei mab yn glwm a’r prosiect ac meddai hefyd, bod y murlun yn sbesial i Bont. Meddai Dafydd fy mab- sydd ddim yn hoffi gwneud lluniau o gwbl ac yn sicr ddim yn hoffi paent- ei fod yn cofio gwneud llun o un o’r mwncïod.
Diolch i gyngor cymuned Ystrad Fflur am gyfraniad tuag at gost y paent. Bydd y peintiad yn iawn am ddeuddeg mlynedd arall gobeithio.
A gan fy mod yn rhoi cot o baent newydd gwnes benderfynu ychwanegu cofeb fach Eisteddfod 2020-22-22.
(Does dim gwefan i furlun y Bont os gall rhywun helpu fi greu un neu flog bydd hynny yn wych!)