Yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Tregaron mae Beth erbyn hyn yn gweithio fel ffisiotherapydd i Dorset Orthopaedic, cwmni sy’n gweithio gyda phobol sydd wedi colli braich neu goes neu yn bara-Olympian, mae hefyd yn gweithio gyda un o gwmniau mwya prosthetics, Ottobok.
Wrth iddi wylio y gemau Invictus cyntaf tua deng mlynedd yn ôl ei huchelgais pryd hynnu oedd i weithio yn Parasport. Fel rhan o’i swydd, bu i Beth gyfarfod gydag un o uwchswyddogion y Fyddin oedd yn gweithio gyda feterans a’r gemau Invictus ac fe anogodd hi i fynd am y swydd gyda’r gemau.
Erbyn hyn, mae Beth newydd orffen yr ymarfer ola cyn iddi ddechrau fel ffisio tîm y Deyrnas Unedig a theithio allan i’r Hague ar gyfer y gemau yng nghanol y mis. Mae’n gwneud y gwaith yma yn wirfoddol ac yn ei hamster sbar.
Pob hwyl i Beth gyda’r gwaith a dymuniadau gorau i’r tîm.