Mis ers i’r Eisteddfod orffen mae’r pafiliwn a’r holl stondinau wedi mynd ac mae daear Tregaron unwaith eto yn dir amaethyddol, ac mae bron yn anodd credu fod y fath brysurdeb wedi bod yn y dre o gwbl.
Buodd yr Eisteddfod yn lwyddiant ysgubol, gyda nifer yn ei galw ‘yr Eisteddfod ore’ erioed’ – clod yn wir i Dregaron ac i Geredigion gyfan am wneud gymaint o ymdrech dros y pedair blynedd diwethaf.
Daeth Cymru gyfan i Dregaron, gyda mwy o garafanwyr na fu mewn unrhyw Eisteddfod erioed o’r blân. Cafwyd cystadlu a pherfformiadau gwych a bu rhai digwyddiadau fel Urddo’r Prif Weinidog yn oesol.
Yn sgil rheoli effeithiol y Cyngor Sir a’r Heddlu ni welwyd dim o’r problemau traffig oedd pawb wedi gofidio.
Y sylwadau oedd yn codi tro ar ôl tro gan ymwelwyr oedd am harddwch yr ardal a natur gartrefol a chroesawgar y bobl leol. Roedd nifer yn ychwanegu y byddant yn sicr yn ail âymweld Thregaron eto i weld mwy o’r ardal ehangach.
Wrth i filoedd o Gymry lanio yn y ‘Dref Fach â Sŵn Mawr’ roedd cyfle gan fusnesau’r dre i elwa. Roedd nifer gan gynnwys y Talbot, Y Clwb Rygbi a’r Clwb Bowlio wedi adrodd wythnos wych, ac roedd masnachwyr lleol ar y maes fel Teifi Toastie yn ddi-stop.
Ond efallai mai’r fenter a wnaeth yr argraff fwyaf oedd y BA’RDD, sef cynllun Olwen Garner a’i ffrind June Y Bryn (June Owens) i agor bar yng ngardd rhif 10 Min y Gors. Mae’r ddwy wedi arfer rhedeg bar yn ystod y rasus ond doedd neb wedi rhagweld llwyddiant y BA’RDD.
“Os bydde’r steddfod wedi bod yn 2020 fel o’dd e fod bydde’r BA’RDD ddim wedi digwydd, ” meddai June a gafodd y syniad yn ystod y cyfnod clo. “O’dd lleoliad da gyda ni ond d’odd dim syniad da ni shwt bydde hi’n mynd- ond o’dd e’n, ffantasig” ychwanegodd.
“O’dd e’n lot o waith ond gethon ni gyment o sbort- o’ ni itha trist pan dath e i ben. Cwrddo ni bobl lyfli o bob rhan o Gymru a lot o bobl leol- ni’n ddiolchgar i bawb am gefnogi”
Uchafbwynt yr wythnos i Olwen a June oedd cael neb llai na’r Archdderwydd yn y gegin yn ysgrifennu penillion!
“O’dd hi’n bwrw glaw ar y Nos Sadwrn gynta felly d’ath rhai i’r tŷ i gysgodi” meddai June “Roedd Myrddin ap Dafydd yn grêt, sgrifennodd e bennill yn ein llyfr sgrap fel pawb arall, ” ychwanegodd.
Mae’r Eisteddfod wedi rhoi hysbysiad gwych i’r ardal ac mae Cymru gyfan yn awr yn gwybod am Dregaron. Er fod cyfnod yr Eisteddfod wedi gorffen, megis dechrau mae’r cyfleodd i fanteisio ar y diddordeb yn yr ardal er mwyn creu gwaddol gwerthfawr.