Maes yr Eisteddfod, Cassie a Dom Tregaron

ATGOF WYNNE MELVILLE JONES

Manon Wyn James
gan Manon Wyn James
Buwch4248

SYLLU o waith Wynne Melville Jones

Mae meysydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn gyfarwydd iawn i mi.

Pan oeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Sir Tregaron (Ysgol Henry Richard nawr) byddwn yn codi am  5.00 o’r gloch y bore ac yn cerdded draw i’r caeau hyn i moyn gwartheg Penlan ar gyfer eu godro. Roedden nhw yno bob bore fel cȏr wrth y gât,  (fresians i gyd ac eithrio un fuwch jersey),  yn aros i mi eu gadael allan i’r ffordd fawr er mwyn cychwyn ar y daith ddyddiol i mewn i glos fferm Penlan a hynny mewn da bryd ar gyfer godro.

Roedd hi’n ddefod ddyddiol bwysig i ddilyn y gwartheg ling-di-long ar hyd y ffordd gan adael eu hôl yn un plaster o ddom da gwlyb, drewllyd  a stici ac er bod yna bobol reit nobl yn byw yn y stryd chlywais i neb erioed yn cwyno am y dom

Un bore a ninnau yn cyrraedd clos Penlan cefais y teimlad ein bod yn brin a bod rhywbeth ar goll,  ac er na allwn i wahaniaethu rhwng pob un fuwch fresian, sylweddolwn mai fy nghyfrifoldeb a fy mraint i oedd sicrhau fod pob un o’r gyrr o wartheg  fferm bwysicaf Tregaron yn cael eu delifro’n ddiogel ar gyfer godro.

Gyda’r gwartheg yn ymgynnull yn y clos roeddent yno namyn un fresian a theimlais ias oer yn rhedeg lawr fy asgwrn cefn. Wedi sicrhau bod gatiau’r clos a’r gwartheg yn ddiogel mi es i chwilio a deall yn glou mai drwy ddilyn y dom yr oedd darganfod y trysor. Nôl ar hyd Steshion Road ac wrth fynd heibio Tafarn y Railway Top (Clwb Rygbi Tregaron nawr) sylwais ar lwybr cul o ddom da oedd yn gwyro oddi wrth y prif lif a’r gweddillion yn arwain at ddreif Cwmtudur,  trwy’r gât agored a heibio ochr y tŷ. Yno ymhlith olion y ffa a’r pys y  bresych a’r tatw yr oedd clatshen o fuwch ddu a gwyn yn gwledda ac yn syllu yn gwbwl bodlon ei byd a chynhwysion y brecwast yn hollol ffres ac iach.  Es ati yn ofalus i geisio troi ei thrwyn i gyfeiriad y ffordd a llwyddo i wneud hynny heb iddi wylltio.

Nid tŷ cyffredin oedd Cwmtudur ond cartref hardd a gweddol newydd a godwyd gan Cassie Davies ar ei chyfer hi a Neli ei chwaer a Peter y brawd. Roedd Cassie yn Brif Arolygwr Ysgolion Cymru, yn ddarlledwraig adnabyddus ac yn enw cenedlaethol dylanwadol iawn yn ei chyfnod. Roedd hi hefyd yn gallu bod yn finiog ei thafod.

Wrth i mi symud y fuwch yn ôl i’r ffordd fawr gallwn weld cysgod rhywun yn ymyl y drws ffrynt. Cassie oedd yno yn ei dressing gown yn sgil  cael ei deffro gan y cynnwrf y pechod yn yr ardd. Clywais ymosodiad geiriol mewn Cymraeg croyw ac roedd wedi ei gwylltio’n gacwn. Cymaint oedd ei gofid bod yr ardd lysiau wedi ei difrodi’n llwyr gan y fuwch a bod wythnosau a misoedd o lafur diflino Peter wedi ei wastraffu. Fe fydde hi yn rhoi pryd iawn o dafod i Dafydd Penlan am y diflastod hwn. Roedd yn anodd iawn i mi gael gair i mewn ond pan feddalodd ychydig ar ei llais awgrymais bod yna ochr arall i’r stori a bod y fuwch falle wedi gwneud cymwynas fawr i’r ardd, y lawntiau a’r rhosynnod wrth roi dôs dda o wrtaith yn y pridd ac y byddai teulu Cwmtudur yn elwa’n fawr o’r tywalltiad o ddom da o’r safon uchaf.

Do, fe lwyddwyd i dawelu ychydig ar y storom ac aeth Cassie nôl i’r tŷ am frecwast.  Wedi i mi ddychwelyd i Benlan roedd gennyf stori fawr i’w hadrodd i’r bore godwyr Dafydd, ei frawd Jim a Deborah y chwaer. Teimlais innau ryddhad mawr wrth glywed sgrech y chwerthin diderfyn y teulu ym Mhenlan a chefais gysur mawr na fyddwn yn debyg o gael y sac ar ôl profiad mor erchyll. Prif sylw Dafydd oedd y dylwn fod wedi dweud wrth Cassie  bod “dom da Tregaron yn ddom digon da i ennill un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol …”

Diolch hefyd i Cassie am werthfawrogi cyfraniad da godro Penlan i bridd Cwmtudur. Fe barhaodd ein cyfeillgarwch am flynyddoedd wedyn a gwnaeth sawl cymwynas bellgyrhaeddol iawn â mi. Mawr yw fy nyled i deulu Penlan ac i Cassie Davies.