Ers wythnosau bellach, mae côr cymysg Tregaron wedi bod yn cwrdd bob yn ail nos Fawrth i ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r Eisteddfod rownd y gornel ac rydyn ni wedi cael ein hymarfer olaf heno! Ry’ ni’n barod amdani. (wel… fwy neu lai!)
Daeth rhai yn eu gwisgoedd piws neu lwyd er mwyn cael ‘dress rehersal’ go iawn. Roedd hi’n werth gweld crys Owain Pugh, un o’r baswyr!
Arweinyddes y côr yw Manon Mai Rhys-Jones, ac meddai, “Mae arwain côr cymysg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhywbeth rwy’ wedi eisiau gwneud erioed. Diolch i chi am adael i ‘hogan ddŵad’ fatha fi gael y fath fraint. Dwi wedi joio bob munud yn eich cwmni.”
Yn arwain corau ers rhyw 15 mlynedd bellach, bydd Manon yn gorffen arwain ar ôl yr Eisteddfod eleni am gyfnod. “Dwi mor browd ohonoch chi. Eisteddfod Tregaron here we come!”
Derbyniodd flodau gan y côr yn rhodd o ddiolch am ei gwaith.
Byddwn ni’n perfformio ar y prynhawn Sul yn y pafiliwn yn y gystadleuaeth Côr yn Cyflwyno Rhaglen o Adloniant, gyda Manon arall, sef Manon Jones, Bont yn cyfeilio.
Bydd Merched Soar hefyd yn cystadlu yn y parti alaw werin ar y dydd Gwener.