gan
Enfys Hatcher Davies
Cynhwysion:
Cwpan o wisgi
Tun mawr o laeth cyddwysedig (condensed milk)
3 wy
Hanner peint o hufen sengl
2- 3 llwy de o goffi (wedi toddi mewn dŵr twym, wedi oeri)
Dull
- Chwisgwch yr wyau ac ychwanegwch y wisgi a’r llaeth cyddwysedig.
- Chwisgwch eto.
- Plygwch yr hufen i’r gymysgedd.
- Ychwanegwch y coffi.
- Rhidyllwch y cyfan cyn ei roi mewn potel.
- Mwynhewch dros y Nadolig!