Gwasanaeth Carolau Rhydlwyd

Capel Rhydlwyd, Lledrod dydd Sul 18 Rhagfyr am 2yp

gan Efan Williams
1-2

Cynhelir gwasanaeth carolau yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod ar ddydd Sul 18 Rhagfyr am 2yp. Bydd cyfle i ganu carolau amrywiol a mwynhau darlleniadau ac ambell i eitem gerddorol gan rhai o drigolion yr ardal.

Bydd cyfle i fwynhau mins pei a chael clonc ar ôl y gwasanaeth.

Bydd y casgliad yn mynd tuag at Trais yn y Cartref Gorllewin Cymru a Homestart.

Dewch i fwynhau naws y Nadolig yn Lledrod!