Yn ogystal ag urddo unigolion amlwg iawn fel Mark Drakeford a Huw Edwards eleni, mae Gorsedd Cymru hefyd yn urddo nifer o unigolion sydd â chysylltiadau agos gydag ardal Tregaron. Aeth Caron360 atynt i ofyn “Beth mae cael eich anrhydeddu gan Orsedd Cymru yn golygu i chi?”
“Braint o’r mwyaf! Cael fy anrhydeddu gan fy nghlwad fy hun, a chael bod yn rhan o sefydliad Celtaidd hynafol. “
Mae Rhiannon Evans, Blaenpennal, yn adnabyddus am ei gemwaith, sy’n ddehongliadau gwreiddiol o’n traddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd, yn arbennig felly chwedlau’r Mabinogion a chwlt y Seintiau. Ers ei sefydlu yn 1971, mae Gemwaith Rhiannon a Chanolfan Cynllun Crefft Cymru wedi dod yn gyfystyr bron â Thregaron ei hun. Mae’r Ganolfan yn hybu crefftwaith a wnaed yng Nghymru ac yn noddi artistiaid a dylunwyr o safon trwy’r siop, y gweithdy a’r Oriel ar sgwâr Tregaron.
“Rwy’n falch iawn o’r anrhydedd wrth reswm. Mae ugeiniau o fenywod rwy’n nabod yn gweithio’n galed i gadw cymdeithasau bach i fynd, ac rwy’n gobeithio mod i’n cynrychioli rhein wrth dderbyn yr anrhydedd.”
Mae cyfraniad Anne Gwynne, Tregaron, i’w chymuned yn dyddio’n ôl dros hanner canrif. Ymysg y cymdeithasau a’r sefydliadau sydd wedi elwa o’i gwaith mae cangen Bronnant o Ferched y Wawr, lle bu’n gyfrifol am gasglu deunydd ar gyfer cyfrol i ddathlu 50fed pen-blwydd y gangen, a Chymdeithas Hanes Tregaron.
Mae hi hefyd yn gyfrifol am ddosbarth o ddysgwyr Cymraeg yn Nhregaron. Ond, mae’i chyfraniad mwyaf efallai i Gymdeithas Edward Llwyd. Bu’n arwain nifer o deithiau cerdded o’r cychwyn, ac er 2004, bu’n cofnodi’r teithiau misol yn fanwl, ynghyd â nifer o luniau, gan greu archif amhrisiadwy ar gyfer y Gymdeithas.
“Mae’n fraint ac anrhydedd i gael y gydnabyddiaeth yma am fy nghyfraniad i’r gymuned leol a thu hwnt, a bydd yn achlysur arbennig iawn yma yn Nhregaron”
Anrhydeddir Cyril Evans, Tregaron, am ei gyfraniad gwerthfawr i ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg am flynyddoedd lawer. Bu’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am bron i ddeng mlynedd ar hugain, gan gyfrannu’n helaeth i fywyd a gwaith y sefydliad hwnnw. Fe’i anrhydeddwyd gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei ymroddiad i Eisteddfod Gadeiriol Tregaron, fel ysgrifennydd a chadeirydd y pwyllgor. Mae’n rhan allweddol o weithgareddau cymunedol yr ardal, ac yn un o’r rhai sy’n cadw Ysgoldy Llanio, hen gartref ei deulu, ar agor, gan gynnal gwasanaeth a chwrdd yno’n rheolaidd.
“Mae derbyn anrhydedd yn rhywbeth newydd i mi ond roedd y cynnig i gael fy urddo ar gaeau Tregaron yn ddigon i fy swyno. Yn y pridd hwn y mae fy ngwreiddiau ac mae naws a rhuddin pobol y fro yn gyson yn ysbrydoliaeth yn fy ngwaith creadigol”
Yn wreiddiol o Dregaron, mae enw Wynne Melville Jones, Llanfihangel-Genau’r-Glyn yn gyfarwydd fel arloeswr PR, fel Tad Mistar Urdd ac artist. Mae’r Urdd yn agos at ei galon ac mae’n Llywydd Anrhydeddus y mudiad. Sefydlodd StrataMatrix, cwmni cyfathrebu dwyieithog cyntaf Cymru, a’i redeg yn llwyddiannus am 30 mlynedd ac mae’n un o sylfaenwyr Golwg Cyf. Wedi ymddeol, ail-gydiodd mewn Celf a bu’n hynod gynhyrchiol a llwyddiannus, gan dynnu’n helaeth ar ddyfnder ei wreiddiau yn Nhregaron a Cheredigion
“Mae fy magwraeth yn Nhregaron wedi llywio fy mywyd. Bum yn ffodus bod fy ngyrfa wedi rhoi cyfle i mi berfformio ar lwyfannau ledled y byd, serch hynny dychwelaf i Dregaron ar bob cyfle posib. Mae’n arbennig iawn i dderbyn yr anrhydedd hyn yma”
A’i wreiddiau yn ardal Tregaron a phlwyf Llanddewi Brefi, mae Huw Rhys-Evans, Harrow, wedi gwneud enw iddo’i hun fel tenor llwyddiannus sydd wedi teithio a pherfformio ledled y byd, gan roi Cymru ar y map ar lwyfannau megis Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, Tŷ Opera Bastille, Paris, a Neuadd Albert, Llundain. Yn enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, bu’n driw i’r Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau lleol ers blynyddoedd, gan ddychwelyd i feirniadu ac arwain Cymanfaoedd Canu. Mae’n dysgu canu i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain, yn aelod o nifer o gymdeithasau, ac yn canu i godi arian at achosion Cymraeg yn Llundain yn rheolaidd.
Mae Caron360 yn dymuno’n dda i bawb sy’n cael eu hanrhydeddu eleni. Yn ystod yr Eisteddfod bydd seremonïau urddo ar y maes bore Dydd Llun a bore Dydd Gwener am 11.00