Ydych chi’n hoff o dynnu lluniau ac eisiau dysgu sgiliau ffotograffiaeth newydd? Beth felly am ddod i weithdy ‘Ffotos Ffwti’ yn Llanddewi Brefi’r dydd Sadwrn hwn er mwyn dysgu sut i fynd ati i ddal ysbryd gêm bêl droed leol ar gamera?
Wrth i ni gyd gyfri’r diwrnodau tuag at ddechrau ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd, mae Cered a Theatr Felinfach wedi mynd ati i drefnu gweithdy difyr gyda’r ffotograffydd talentog a’r dilynwr pêl droed brwd Owen Pedr Edwards yn Llanddewi Brefi’r dydd Sadwrn hwn (Tachwedd 19eg).
Mi fydd y gweithdy yn cychwyn am hanner dydd yn Neuadd y Pentref gyda sesiwn ysgafn i ddangos technegau camera defnyddiol, rhoi syniadau o luniau da a sut i gael y mwyaf allan o’ch camera boed hynny’n gamera digidol ffansi neu yn gamera ar ffôn symudol. Wedi egwyl fach am ginio (cofiwch focs bwyd!) mi fyddwn ni’n mynd draw i faes chwarae CPD Sêr Dewi a hynny er mwyn rhoi’r hyn byddwch chi wedi ei ddysgu ar waith yn un o gemau mwyaf y penwythnos – Sêr Dewi yn erbyn CPD Ffostrasol!
Gweithdy cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob oed yw hwn (8 i 80+) er mi fydd angen rhiant/gwarchodwr ar blant dan 16 oed. Mae croeso cynnes i bawb gan gynnwys dysgwyr sydd am gael cyfle i ymarfer eu Cymraeg ac mae’r gweithdy yn rhad ac am ddim.
Gofynnwn yn garedig i chi gofrestru o flaen llaw trwy e-bostio cered@ceredigion.gov.uk
Mae’r gweithdy yma yn cael ei drefnu fel rhan o gynllun gan Cered a Theatr Felinfach i blethu chwaraeon, y Gymraeg a’r celfyddydau yn baralel i Gwpan y Byd ac mae wedi ei ariannu gan Gyngor y Celfyddydau. Dros yr wythnosau nesaf fe fydd yna weithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal o gwmpas y sir gan gynnwys noson o ganu a joio gyda Meibion y Mynydd yn Nhafarn yr Halfway, Pisgah ar nos Wener Tachwedd 25ain a rhaglenni byw o sioe sgwrsio Cefn y Rhwyd yn Nhafarn y Vale, Ystrad Aeron adeg gêm Cymru yn erbyn UDA nos Lun Tachwedd 21ain a gêm Cymru yn erbyn Iran bore dydd Llun Tachwedd 25ain.