“Wnes i erioed freuddwydio y bydde’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Dregaron.
Er bod y dre a’r ardal yn un o gymunedau pwysicaf y fro Gymraeg, ac ers blynyddoedd lawer yn ganolfan farchnad amaethyddol bwysig i gylch eang ac yn un o’r ardaloedd mwyaf naturiol Gymreig a Chymraeg, achlysurol iawn fu’r gydnabyddiaeth i’r ardal ar lefel genedlaethol.”
Dyna eiriau Wynne Melville Jones neu Wyn Mel, y dyn PR a’r arlunydd a fagwyd ar Sgwâr Tregaron yn y pumdegau a’r chwedegau ac sy’n un o’r rhai sy’n cael ei anrhydeddu â’r wisg werdd gan Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad i’r diwylliant Cymreig ar fore dydd Gwener yr Eisteddfod.
“Yn ôl llawer o bobol roedd Tregaron yn rhy fach ac ynysig, yn rhy bell o bob man ac yn rhy drafferthus i bobol gyrraedd o’r Gogledd a’r De a dyna oedd y canfyddiad dros y blynyddoedd,” meddai.
Bellach mae’r ddelwedd honno wedi ei chwalu ac o’r diwedd yn sgil yr Eisteddfod a datblygiadau lleol eraill, mae Tregaron ar y map a Chymry o Fȏn i Fynwy ac ar draws y byd yn siarad nawr am Dregaron a’r ‘dre fach a’r sŵn mawr’ yn cael sylw a chydnabyddiaeth nas gwelwyd ei debyg o’r blaen.
“Codwyd cenhedlaeth newydd o Gymry ifanc gweithgar a mentrus yn yr ardal gan ddod â bywyd newydd i’r hen dref draddodiadol a rhoi hwb i fywyd diwylliannol a masnachol y lle trwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau newydd a gwreiddiol a bywiog, megis Gŵyl roc flynyddol Tregaroc, sefydliad nifer o gymdeithasau ac o fentrau busnes newydd yn yr ardal, ac Ysgol newydd Ysgol Henry Richard, a ddaeth yn bwerdy o weithgaredd cymunedol.
Gyda dyfodiad Prifwyl 2022 i fro fy mebyd roeddwn yn awyddus i ddathlu’r Eisteddfod arbennig hon yn fy ffordd fy hun a hynny trwy gyfrwng fy ngwaith creadigol gyda’r nod o gyfleu a chlodfori Tregaron mewn cyfres o baentiadau a fyddai’n cynnwys lleoliadau cyfarwydd â’u cyfuno â negeseuon lleol arbennig,” medd Wyn Mel.
“Nodwedd arbennig o Dregaron a’r pentrefi cyfagos yw ei phobl a’i chymeriadau lliwgar a bwrlwm ei gweithgareddau mewn cymuned glos sy’n naturiol Gymreig a chan nad wyf yn paentio portreadau roedd yn rhaid canolbwyntio ar ddarlunio lleoliadau sy’n symbolaidd o fywyd a diwylliant yr ardal, megis Sgwâr Tregaron, Ystrad Fflur, Soar-y-Mynydd, Eglwys Llanddewi Brefi a Chors Caron yn eu plith.”
“Y canlyniad oedd creu 12 darlun gwahanol oedd yn cydnabod pwysigrwydd a chyfraniad Tregaron i Gymru gyfan.
” Pan oeddwn yn grwt ifanc rwy’n cofio gweld a chlywed Adar Tregaron yn perfformio mewn Cyngherddau a Nosweithiau Llawen ac ar radio BBC Home Service, criw o ferched lleol yn canu caneuon gwreiddiol Idwal Jones, Llambed ac yn cael eu hyfforddi gan Dai Williams Tregaron.
“Dyma osod seiliau y byd canu pop Cymraeg.
“Wrth gyfeirio at adar yn Nhregaron mae pwysigrwydd yr ymgyrch i achub y barcud coch rhag difancoll yn hysbys trwy’r byd ac yn un o lwyddiannau mawr ein cyfnod. Bu trylwyredd a dyfal barhad yr ymgyrch hyn yn sicr yn wers i ni heddiw wrth i ni frwydro i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn wyneb pob math o ddylanwadau dinistriol estron.
“Nawr, mae angen i ni glosio a chydweithio er mwyn rhannu profiadau a gwybodaeth er mwyn sicrhau yr un llwyddiant i’n hymgyrch dros yr iaith, ein diwylliant a’n hunaniaeth” medd Wyn Mel.
Mae modd gweld y gyfres o 12 darlun yn Oriel Rhiannon, Y Sgwâr, Tregaron dros gyfnod estynedig yr Eisteddfod. Mae pob un o’r lluniau ar gael i’w prynu ynghyd â nifer fechan iawn o brintiadau ohonynt ac i gyd-fynd â’r Eisteddfod mae gostyngiad yn y prisiau.
Dywedodd Gwern Gwynfil, perchennog Oriel Rhiannon, bod y gwaith hwn yn gwbwl unigryw ac wedi dal naws y fro.
“Mae’r darluniau hyn yn cyd-fynd a’n gweledigaeth ni yng Nghanolfan Rhiannon i gefnogi a hyrwyddo cynnyrch safonol lleol ac mae’r Eisteddfod yn cynnig llwyfan gwahanol i ni gyflawni hyn.
“Dyma swfenîr arbennig i gofio am Eisteddfod 2022” meddai.
Dywedodd Wyn Mel, ei fod yn teimlo balchder arbennig o’i wreiddiau yn Nhregaron.
“Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle i arddangos fy ngwaith i gyd-fynd a’r Eisteddfod, yn enwedig yn Oriel Rhiannon sy’n un o orielau hyfrytaf Cymru ac i ddychwelyd i’m cynefin ar Sgwâr Tregaron lle roeddwn yn chwarae pan yn blentyn. Mae’n gylch llawn i mi” medd Wyn Mel.