Dros y ddwy flynedd diwethaf bu’r dyn busnes a’r Cynghorydd lleol Rhydian Wilson yn brysur yn adnewyddu’r hen bopty yn Nhregaron i hostel a chanolfan awyr agored. Wrth iddo nesáu at gwblhau’r project aeth Caron360 draw am sgwrs.
Shwmae Rhydian, mae’r hostel yn edrych yn grêt- o ble ges di’r syniad gwreiddiol?
“Wel mae’n gyfuniad o gwpwl o bethe’n dod at ei gilydd a gweud y gwir. Rwy’n byw drws nesa felly mae’n gyfleus a hefyd roedd gen i awydd sefydlu hostel ers amser, er mwyn cael adeilad i gyd-fynd a gwaith y cwmni. Rwy’n rhedeg ‘Ieuenctid Cambria Youth’ sy’n cynnig cyfleodd i Ieuenctid ar deithiau antur gwobr Dug Caeredin”
Bu popty ar y safle hwn gyda’r teulu Pollack ers dros hanner canrif, faint o her oedd cynllunio a gwireddu’r project?
“Yn ogystal â goblygiadau cyfnod clo Covid-19 roedd nifer o heriau. Yn gyntaf roedd angen ychwanegu llawr arall i’r adeilad er mwyn gallu creu ystafelloedd cysgu yn y llofft. Roedd delio gyda’r asbestos yn yr hen bopty yn her ar ben ei hunan- wrth i gwmni arbenigol godi £18,000 arna i glirio’n ddiogel! Er mod i’n ddiolchgar o grantiau cyhoeddus gan y Llywodraeth roedd y gyllideb yn dynn a gwnes i lot o’r gwaith fu hunan”
Beth all fbbl ddisgwyl wrth fwcio mewn i’r ‘Bunkery’?
“Adeilad aml bwrpas yw’r Bunkery. Lan lofft mae dwy stafell bunk en-suite sy’n cysgu 4, cegin a lolfa. Lawr stâr ma’ storfa beics a stafell ddosbarth ar gyfer cyrsiau un dydd. Ar hyn o bryd mae 10 beic mynydd (gan gynnwys 5 e-feic) ar gael i’w llogi ac mewn amser rwy’n golygu cynnig teithiau e-feics. Mae’r adeilad yn cynnig ei hun fel hostel i 8 o bobl neu yn le am gyrsiau un dydd. Mae’r hostel ar heol Abergwesyn, sy’n gyfleus i’r dre ac yn edrych yn syth tuag at Gwm Berwyn ac ehangder awyr agored yr Elenydd”
Yn ogystal â rhedeg y cwmni a’r Bunkery chi hefyd yn Gadeirydd Cyngor Tref Tregaron. Mae’n gyfnod prysur a chyffrous yn lleol wrth i Dregaron groesawi Cymru gyfan i’r Eisteddfod ym Mis Awst, sut mae’r paratoadau yn dod mlân?
“Mae’r Cyngor yn ddiolchgar dros ben fod yr Eisteddfod wedi derbyn ein gwahoddiad yr holl flynyddoedd yn ôl, ond pwy feddylie’ pryd hynny bydden ni dal yn aros am Eisteddfod yn 2022!. Mae nifer o gynlluniau ar waith gyda’r Cyngor sy’n cynnwys codi baneri, codi arwydd mawr, adeiladu cylch o gerrig, harddu, peintio ayb. Bydd y sgwâr yn cael ei gau er mwyn creu canolbwynt i ddigwyddiadau yn y dref ar hyd yr wythnos. Mae’r Eisteddfod yn amlwg yn gyfle aruthrol i Dregaron, ac er bydd maint y digwyddiad efallai yn dipyn o sioc i rai yn y dre, y neges yn syml yw i bobl fwynhau’r profiad ac i gynnig CROESO i bawb”
Pob dymuniad da i Rhydian gyda’i fenter ddiweddaraf. Mae bwriad i gael agoriad swyddogol yn ystod wythnos yr Eisteddfod gan wahodd gwestai arbennig.
I archebu lle yn y Bunkery cysylltwch gyda Rhydian ar 07813702982 neu rhydian@icyuk.co.uk