Heno, buodd criw Bro360 ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron yn busnesa!
Shwt mae’n edrych?
Wel dyma rannu ambell lun gyda chi fel diweddariad.
Mae’n faes hyfryd – digon o le a digon o bethau i weld a gwneud.
Ambell ddarn o wybodaeth handi:
-Mae Maes Parcio i’r anabl sydd â bathodyn glas ger y fynedfa. Cofiwch ddilyn yr arwyddion.
-Os oes angen sgwter neu gadair olwyn ar rywun, mae’n syniad da i’w bwcio o flaen llaw. Byddan nhw ar gael yn y fynedfa.
-Mae teithiau tywys o gwmpas y maes yn digwydd bob dydd yn ystod yr wythnos. 11 a 2 o’r gloch. Mae’r teithiau yma’n ddefnyddiol i ymwelwyr newydd, dysgwyr neu ymwelwyr di-gymraeg. Man cwrdd yw’r caban “Gwasanaeth” ger y fynedfa.
Mae mwy o fanylion ewch i wefan yr Eisteddfod trwy glicio yma.