Heddiw, cipiodd côr Merched Soar y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Parti Alaw Werin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Canodd y côr y caneuon Alaw yr Ychen (y darn gosod) a Santiana fel yr hunan ddewisiad.
Mae’r côr yn gôr o Dregaron. Wedi’i sefydlu ers 2016, mae’r côr o ferched yn cwrdd bob yn ail nos Fawrth yn festri Bwlchgwynt, Tregaron.
Dyma achlysur arbennig iawn i’r côr. Nid yn unig oherwydd bod y côr “on home ground,” ond hefyd, mae cyfnod Manon fel arweinyddes yn dod i ben heddiw. Mae Manon wedi gorffen ar uchafbwynt go iawn.
Meddai Manon, “Wel y jiw jiw!! Enillwyr y Genedlaethol! Merched Soar! Pwy fydde’n meddwl!? Ac yn ein “Steddfod Ni” a bob dim! Ardderchog ferched, diolch am bopeth ac allen i ddim wedi gallu gofyn am ddiweddglo gwell i gyfnod hapus iawn. WOHOOO!! “
Diolch am dy arweiniad Manon!