Dathlu 6 Arwr lleol.

Cardiau ‘top trumps’ blwyddyn 7.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Dyma rai o ddisgyblion blwyddyn 7 yn cyflwyno eu cardiau ‘top trumps’ ar gyfer ein 6 arwr lleol.

Dewison ni ein harwyr lleol sy’n dod o dan 6 thema wahanol er mwyn dathlu eu cyfraniadau i’n hardal. Dyma nhw:

Twm Siôn Cati – Llenyddiaeth

Henry Richard – Hanes

Ifan Jones Evans – Adloniant

Joseph Jenkins – Daearyddiaeth

Dafydd Morgan – Gwyddoniaeth a thechnoleg

Rhiannon – Hamdden

Treuliodd y dosbarthiadau blwyddyn 7 eu gwersi Cymraeg yn astudio’r arwyr wedyn. Buon ni’n ffodus iawn i gael ymweliad gan Dafydd Wyn Morgan, lle dysgon ni am fyd serydda. Daeth â’i gyfarpar i’r ysgol i ddangos sut mae’n llwyddo i dynnu lluniau godidog yn y nos o’r awyr dywyll. Ysbrydolwyd y disgyblion a’r athrawon!

Cyfweliad ar sgrin wedyn gan Ifan. Roedd pawb wrth eu boddau’n holi Ifan am bopeth dan haul… Beth yw dy hoff fisged? Beth yw dy hoff dractor? Pwy yw dy arwr? Sut ysgol oedd yr ysgol pan oedd e’n ddisgybl yma? Cafodd Ifan wres ei draed heb os!

Aethon ni lawr i’r dre i gwrdd â Rhiannon yn y siop a chael croeso cynnes iawn. Dangosodd hi’r gemwaith i’r disgyblion gan egluro’r broses ddiddorol o greu’r campweithiau. Holwyd nifer o gwestiynau hefyd am gefndir, hanes a dyfodol y busnes unigryw. Cafwyd sgwrs ddifyr gan Gwern sef mab Rhiannon hefyd am chwedloniaeth Cymru, sef un sbardun ac ysbrydoliaeth i’w gwaith.

Yn amlwg, mae’r 3 arwr arall wedi marw, ond daeth stori Twm Siôn Cati’n fyw i’r criw yn theatr Felinfach mewn sioe arbennig gan Arad Goch.

Crëwyd llinell amser ar gyfer Henry Richard a bu’r criw yn brysur yn ymchwilio i fywyd difyr Joseph Jenkins.

Derbyniodd blwyddyn 7 weithdy gan Beth o’r cwmni CISP Multimedia cyn bwrw ati i ddylunio’r cardiau. Rhaid oedd dewis lliwiau, patrymau a geiriau’n ofalus.

Dewch i weld y campweithiau yn cael eu harddangos ym Mhentref Ceredigion ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron yr wythnos nesaf.