Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Dyma dystiolaeth clir taw nonsens llwyr yw cythrel cystadlu yn Nhregaron eleni. Mae pawb yn cefnogi ei gilydd ac yn ymfalchïo yn llwyddiant ei gilydd.
Yn y gystadleuaeth Perfformio Darn Digri Agored, daeth Gwion Bowen (10 oed) a Rhys Owen Jones i helpu Mair Jones sy’n 86 oed i’r llwyfan. Yn y llun, fe sylwch ar Gwion a’i law o’i chwmpas a Rhys yn ei harwain lan y ramp i’r llwyfan.
Llun sy’n crynhoi’r teimlad o gwmpas y maes eleni. Da iawn chi!