Ar ôl cyfnod o ddwy flynedd heb gwrdd daeth aelodau Cymdeithas Capel Rhydlwyd Lledrod at ei gilydd nos Wener diwetha i dafarn y Bont Bronnant am wledd o gwrdd bach ‘ffwrdd â hi’ go iawn! Er nad oedd yno gystadlu o’r canu a’r llefaru arferol bu cystadlu brwd ar y tasgau ysgrifenedig sef cyfansoddi brawddeg ar y llythrennau PENBANC, brys neges ar y llythyren ‘T’ ac wrth gwrs gorffen y limrig. Roedd y noson hefyd yn gyfle i Lowri Jones Abernac gyflwyno siec o £407.00 ar ran y gymdeithas i Ambiwlans Awyr Cymru a godwyd yng Nghwrdd Diolchgarwch a gwasanaeth Nadolig y capel yn 2021. Cafwyd digon o gyfle i ddal fyny â ffrindiau a chymdogion dros bryd o fwyd hyfryd o gawl, bara a chaws. Y gŵr gwadd oedd Mr Alun Jenkins Pontarfynach ac yntau hefyd oedd yn beirniadu. Bu morio chwerthin wrth i Ioan Williams, Lowri Jones a Geraint Lloyd ymgeisio ar y dasg o ‘siarad ar y pryd’ am eitem oedd wedi ei selio mewn amlen o flaen llaw gan Alun Jenkins. Eitemau digon diddorol oedden nhw hefyd! Diolch i Bethan Hopkins-Williams, Meinir Jenkins ac Efan Williams am drefnu’r noson ac i Ioan Williams am roi’r diolchiadau.
Enillydd y frawddeg oedd Bethan Hopkins-Williams Glandŵr:
Pandemig eithriadol newidiodd bywyd a nychu cymdeithas.
Cydradd gyntaf oedd y brys neges i Wiliam Jenkins Ynysforgan ac i William Jenkins Ynysforgan (dim ond mewn cwrdd bach!!):
Talbot,Tregaron.
Tise tamaid Twm?
Tania,
Tregaron tri tri tri.
Tinder Twm Tynllan —
Terramycin, Triplephosphate,
Toyotapickup
Gwobrwywyd y brif wobr am y darn gorau allan o’r limrigau, y brawddegau a’r brys negeseuon i gyd i Geraint Lloyd ac mi dderbyniodd y gadair (yn rhoddedig gan Mr John Davies er cof am Elinor a Ieuan Davies Rhydlwyd) am ei ymgais (funud ola!) i orffen y limrig:
- Bu earthquake ym Mronnant un noson
- Gan ysgwyd y lle i’r ymylon
- Ond beth welodd y bobl, y bore canlynol
- O’dd Tafarn y Bont yn Llangwyryfon!