Mae Dafydd Richards o Gyngor Tref Tregaron a’i ffrindiau wedi bod yn brysur dros yr wythnose’ diwethaf yn cynllunio o gosod arwydd mawr ar Fryn Camer.
Yn dilyn ysbrydoliaeth gan arwydd Llanrwst yn 2019 aeth y criw ati ond ar gyllideb tipyn llai.
‘O ni ise gwneud rhywbeth yn debyg i arwydd Llanrwst, ond fel Cardis go iawn ni wedi gallu neud un am ffracsiwn o’r gost!’ meddai Dafydd. ‘Diolch i Wil Chips (William Jones) am ganiatâd i ddefnyddio’r cae ac i’r criw am helpu cynllunio a gosod yr arwydd, buodd tipyn o grafu pen ond ni’n falch iawn gyda’r canlyniad’
Mae’r arwydd i’r dwyrain o Dregaron ac i’w weld o’r maes. Defnydd yr arwydd yw rhwyd plastg sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar ochr tyrau sgaffaldau, sydd wrth gwrs yn gyfarwydd i Dafydd yn ei waith fel cyfarwyddwr i gwmni Safety Net Services yn Aberystwyth.
Yr arwydd hyn yw diweddaraf o gynlluniau Tregaron i ddathlu Eisteddfod, yn dilyn codi cylch o gerrig, murlun Gwawr Yim Jones, codi arwyddion a bunting ac unigolion yn harddu eu tai a’u busnesau.
“Mae’n bleser gweld y dref” meddai Rhydian Wilson, Cadeirydd Cyngor y Dref “Dros yr wythnosau diwethaf mae pobl Tregaron a holl ardaloedd Ceredigion wedi ymateb yn anhygoel o dda. Mae popeth yn ei le erbyn hyn, a ni’n edrych ymlaen i croesawu Cymru gyfan i Dregaron”