Clecs Caron – Elfyn Pugh

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, Elfyn Pugh.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Enw:                   Elfyn Pugh

Cartref:               Criccieth (via Stag’s Head)

Teulu:                  Elin, Anna ,  Harri a Mos

Gwaith:                ‘Cyfrifydd’ 

Disgrifia dy hun mewn tri gair. Trio. Gwneud. Gormod.

Unrhyw hoff atgof plentyndod. Chwarae Pêl-droed a Rygbi yn Ysgol Gynradd Llangeitho ac Ysgol Uwchradd Tregaron.

Yr eiliad o’r embaras mwyaf. Crasho’r car mewn i bont yn Llanwnnen, a gorfod gofyn i ffrind i fynd a fi,  a’r car adre.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?
Bod yn ddiolchgar o bob eiliad.

Pwy yw dy arwyr? …ar hyn o bryd,   Kieffer Moore a Taulupe Faletau

Beth yw dy arbenigedd? ‘Jack of all trades’ a ddim yn arbenigo yn dim byd!

Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden? Trio hyfforddi tîm pêl-droed a gwirfoddoli ar griw Bad Achub Criccieth.

Pa fath o berson sy’n mynd o dan dy groen? Anonest

Pryd llefaist ti ddiwethaf? Euros 2016

Wyt ti’n difaru rhywbeth? Stopio chwarae rygbi, yn rhy ifanc.

Beth yw dy gyfrinach i gadw’n heini? Cadw i symud.

Beth yw dy gyfrinach i gadw’n bert / i gadw’n gryf? Defnyddio siampŵ a conditioner da, ac yfed Guiness.

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti? Anadlu allan wrth agor pob drws,

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd? Cael ci…… (Na joc -priodi a chael plant!)

Beth yw dy hoff air? Penwythnos.

Eich gwyliau gorau? Norfolk Broads gyda ffrindiau ysgol nol yn nawdegau.

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen? Eckhart Tolle : The Power of Now

I ddarllen y cyfweliad yn llawn, bydd rhaid i chi brynu Papur Bro Y Barcud, Rhifyn Rhagfyr. 

Clecs Caron tro nesaf.. Rhodri Edwards. (gynt o Bont ond sydd bellach yng Nghaerdydd)