Chwedl Pont Einion gan Ysgol Henry Richard

Project Cynefin y Cardi

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Mae ardal Tregaron yn frith o chwedlau difyr ond wrth ddewis chwedl ar gyfer project Cynefin y Cardi blwyddyn 6, roedd un yn amlwg iawn yn addas i ni y tro yma. CHWEDL PONT EINION sef y chwedl sydd wedi ei lleoli ar dir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Chwedl drasig ond rhamantus yw hi, am Einion a’i delyn.

Mae’n addas iawn i’r fro drafod y chwedl hon nawr, gan y bydd cerddoriaeth draddodiadol i’w glywed ar yr un tir ym mis Awst eleni. (a gerllaw’r Bont eiconig, Pont Einion)

Byddai Einion wedi bod wrth ei fodd mae’n siŵr!

Gwyliwch y fideo gan y disgyblion i ddysgu mwy.