Mae wedi bod yn braf dal lan gyda phobl leol ar Faes yr Eisteddfod yn Artisan, yn y lle celf ac ar y maes. Rwyf wedi fy syfrdanu gyda nifer o fusnesau bach sydd â phresenoldeb ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.
I ddechrau yn y Lle Celf gwelir gweithiau gan artistiaid adnabyddus yr ardal sef Ogwyn Davies, yn wreiddiol o Gwm Tawe ond gwnaeth ymgartrefu yn Nhregaron pan ddaeth i ddysgu Celf a chrefft yno yn y 50au am weddill ei oes. Mae 2 darn o waith ar y waliau yn cynnig blas o’r hyn sydd i’w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Yr artist arall yn y cyntedd yw Mary Lloyd Jones sydd yn dod o ardal Cwmystwyth/ Pontarfynach ond wedi byw yn Aberystwyth ers sbel. Mae 2 darn o waith mawr lliwgar i weld.
Mae wedi bod yn braf dal i fyny gyda’r artistiaid a gweithwyr eraill sydd â stondinau ar y maes. Dydd Llun roedd Marian Haf o Ffair Rhos wrthi yn cynnal dosbarth meistr yn y Lle Celf, yn hwyrach yn y dydd daeth u’n o’r mynychwyr, John Habron-James, dod i weithdy gyda fi a gwnes dynnu llun o’i waith.
Mae gan Marian Stondin yn Artisan mae’n siario gyda Vicky Jones o Swyddffynnon ond sydd yn byw yn Aberystwyth, mae Vicky yn gwneud gemwaith a Marian yn gwneud Printiau, ac mae gwerth gweld ei gweithiau nhw. Mae’r ddwy wrth eu boddau yn gweithio yn yr Eisteddfod eleni a bod mor agos i gartref.
Hefyd yn artisan mae gan Sinsir stondin sydd yn gwerthu deunyddiau gofal croen naturiol ac organig.
Y stondin arall sydd â chyswllt lleol yw Er Dy Les Di cwmni sydd yn cynnig adnoddau Iechyd a Lles i oedolion, plant ac i ddisgyblion ysgol.
Ceir yn ogystal peintiadau Gwawr Yim Jones.
Ges hwyl yn dal i fyny gydag Eurfyl sydd yn wreiddiol o Dregaron ond yn byw ac yn athro yn y de. Mae Eurfyl wedi cael llawer o hwyl wrth aros gyda’i fam a pheintio tua 5 murlun yn y dref wrth baratoi am yr eisteddfod. Yn y gweithiau ar y waliau mae Eurfyl yn cyflwyno cymeriadau a thirluniau adnabyddus i ni yn yr ardal ac yng nghanol ei stondin roedd portread o’i dad.
Mae nifer arall o artistiaid o ardal Ceredigion yn Artistiaid sef Llio James, a Lowri Davies (cyswllt ag Aberystwyth)
Ar y maes mae nifer fawr o stondinau â chyswllt leol fel Lizzy Spikes a Siop Inc ond gwnes ddal i fyny gyda Glesni Haf o Lanfihangel y Creuddyd a’i stondin yn llawn pethau i’r cartref ac i’w gwisgo wedi eu gwneud allan o garthenni Cymreig, hefyd mae Anrhegaron a stondin ar y maes ac yn y siop yn y dref.
Mae wir yn wych gweld nifer o fusnesau bach lleol yn llwyddo.