gan
Enfys Hatcher Davies
Cafwyd sbort yng Ngharnifal Llanddewi yn ddiweddar gyda’r trigolion yn gwisgo lan yn eu gwisgoedd amrywiol mewn categorïau gwahanol. Oedrannau gwahanol, y pâr gorau, gwisg wedi’i wneud o ddeunyddiau ailgylchu a llawer mwy.
Plant y pentref oedd yn fuddugol yn y Fflôt eleni gyda’r WI yn ail a Fflôt Peeky Blinders yn drydydd. Roedd y fflôts yn werth eu gweld, yn enwedig y plant, yn goch i gyd. Y Wal Goch oedd thema’r fflôt buddugol.
Roedd y gystadleuaeth rownderi’n un fywiog a chystadleuol iawn wedyn gyda thîm o ieuenctid y fro yn ennill yn erbyn y timoedd ‘hŷn.’ Cafwyd sawl gêm agos iawn a sawl dadl a chwerthin.
Joiodd pawb y gerddoriaeth fyw, y bwyd a’r diodydd ar ddiwedd y dydd hefyd.
Diwrnod hyfryd, cymunedol.